ARCHEBU DRWY’R BOTWM ‘ARCHEBU NAWR
Ffoniwch ni i Archebu
029 2082 9970
E-bost
Dod o hyd i ni
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, Ffordd Watkiss, Bae Caerdydd, CF11 0SY

I badlwyr o fri

British Canoe (BC) yw corff llywodraethu chwaraeon padlo yn y DU. Mae dyfarniad i bob gallu, ar ôl i chi ddeall sylfeini naill ai hyfforddi neu badlo personol daw’r dyfarniadau’n benodol i ddisgyblaethau.

Mae DGRhC yn gyffrous ei fod yn ddarparwr cwrs British Canoeing. Mae pob cwrs yn eithaf dwys ac yn dilyn amlinelliad strwythuredig sy’n cwmpasu ystod eang o sgiliau a theori.  Mae pob dyfarniad yn rhagofyniad i fynd ymlaen i’r nesaf ond gallai fod yn bosibl methu camau os oes gennych y profiad angenrheidiol.

Os nad ydych yn sicr ynghylch pa Gyrsiau British Canoeing sydd i chi, cysylltwch â ni a bydd y tîm yn fwy na pharod i roi cyngor.

British Canoeing Activities List
Arweinydd Caiacio Dŵr Gwyn

ARWEINYDD CAIACIO DŴR GWYN

Mae’r cwrs hwn yn rhoi’r lefel sgiliau i chi i arwain grwp o badlwyr mewn lleoliadau priodol hyd at amodau dŵr gwyn cymedrol, ac i farnu’r amodau ynghyd â safon y grŵp er mwyn gwneud penderfyniadau priodol ynghylch a oes angen addasu cynlluniau ai peidio.

Mae’r cwrs Arweinydd Caiacio Dŵr Gwyn yn rhoi pwyslais ar sut mae rhwyfo, er mwyn gallu dysgu technegau addas a rheoli’r cwch mewn sefyllfaoedd go iawn.

Mae’r cymhwyster hwn ar gyfer pobl sydd am arwain padlwyr cymwys mewn amgylchedd dŵr ‘cymedrol’.

GOFYNION CYN Y CWRS

Hyfforddiant: Padlo at safon y Cymhwyster Dŵr Gwyn Cynyddol.

Asesu:
Hyfforddiant Arweinydd Dŵr Gwyn (o fewn 3 blynedd)
Cymhwyster Diogelwch ac Achub Dŵr Gwyn Canŵio Prydain neu Achub 3 Technegydd Achub Dŵr Gwyn
Cofrestru ag Arweinyddiaeth Cenhedloedd Prydain
Aelodaeth Cenhedloedd Prydain
Hyfforddiant Cymorth Cyntaf 2 ddiwrnod dilys
16 oed neu'n hŷn

Arweinydd Caiac Dŵr Gwyn Uwch

Arweinydd Caiac Dŵr Gwyn Uwch 

Os ydych am arwain caiacwyr dŵr gwyn ar deithiau afon o safon uwch, mae’r hyfforddiant deuddydd hwn yn canolbwyntio ar y lefel uchel o sgiliau personol, crebwyll ac arweinyddiaeth sydd eu hangen mewn sefyllfaoedd mwy heriol.  Mae’r cwrs yn cynnwys sgiliau padlo personol, sgiliau achub, diogelwch, arweinyddiaeth a sgiliau grŵp ynghyd â’r theori.

Er mwyn dod yn Arweinydd Caiacio Dŵr Gwyn Uwch, rhaid i chi gwblhau’n llwyddiannus asesiad dau ddiwrnod, ymarferol ar y cyfan, ar rannau o ddŵr gwyn, sy’n cynnwys teithiau addas ar afonydd.   Rhaid i Arweinyddion Caiacio Dŵr Gwyn Uwch gael y lefel o sgiliau personol, y gallu arweinyddol a’r crebwyll i arwain padlwyr gydag ystod o brofiad, hyd at, ac yn cynnwys safon dŵr gwyn uwch.

Diogelwch ac Achub Sylfaenol

Diogelwch ac Achub Sylfaenol  

Os ydych am ddatblygu eich sgiliau diogelwch ac achub mewn amgylchedd dŵr cysgodol, mae’r cwrs undydd ymarferol hwn yn cyflwyno’r prif sgiliau sydd eu hangen arnoch i weithredu’n ddiogel ac i ddelio ag argyfyngau cyffredin. 

Mae’r cwrs hwn yn cynnwys theori a chynllunio cyffredinol, yn ogystal â sut i achub o’r lan, ac achub o gwch.   Mae’r cwrs hwn yn agored i badlwyr, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr, mewn unrhyw grefft neu ddisgyblaeth, gyda dewis i achub o’r lan neu o gwch, gan roi’r cyfle a’r gefnogaeth i chi ddatblygu eich sgiliau diogelwch. 

Hyfforddwr Padlo

Hyfforddwr Chwaraeon Padlo

Os ydych am fod yn Hyfforddwr Chwaraeon Padlo, bydd y cwrs deuddydd hwn sy’n cyfuno hyfforddiant ac asesiad yn eich cynorthwyo i gynnal gemau a gweithgareddau, i gefnogi dysgu, ysgogi antur a chyflwyno padlwyr newydd i’r grefft o badlo’n sefydlog. Ar y cwrs ymarferol hwn, byddwch yn dysgu sgiliau fel cael y grŵp wedi’u gwisgo’n iawn a’u cael i arnofio, gweithgareddau ymgyfarwyddo a sut i ddefnyddio teithiau byrion i gefnogi dysgu.  Mae’r cymhwyster hwn ar agor i bawb! 

GOFYNION CYN Y CWRS

  • Hyfforddiant Diogelwch ac Achub Sylfaenol
  • 14 oed neu hŷn
  • Ffurflen Gofrestru Hyfforddwr (CH) un o Genhedloedd Prydain
  • Aelodaeth Genedlaethol

HYD Y CWRS

2 diwrnod, (09:00 - 17:00)

PRIS

£200 y pen

Hyfforddiant Craidd i’r Hyfforddwyr

Hyfforddiant Craidd i’r Hyfforddwyr

Mae’r Hyfforddiant Craidd i’r Hyfforddwyr dros ddau ddiwrnod yn generig ac yn agored i bob hyfforddwr Chwaraeon Padlo ar y lefel hon.  Ar y cwrs ymarferol hwn, byddwch yn archwilio dulliau gwahanol o hyfforddi, yn deall ac yn galluogi dysgu, ac yn dysgu rhai sgiliau hyfforddi craidd.   Byddwch hefyd yn cael cefnogaeth i esblygu eich cynllun datblygu hyfforddiant personol i’ch galluogi i droi eich dysgu yn gamau ymarferol ar ôl y cwrs.

GOFYNION CYN Y CWRS

  • Aelodaeth lawn o Gymdeithas Cenhedloedd Prydain 

Er mwyn cael y mwyaf o’ch hyfforddiant, bydd angen lefel sylfaenol o wybodaeth am y ddisgyblaeth(au) yr ydych am ei hyfforddi. Bydd yr hyfforddiant hwn yn rhoi’r cynnwys i chi i’w ddefnyddio i ddysgu.  

HYD Y CWRS

2 diwrnod, (09:00 - 17:00)

PRIS

 £200 y pen

Hyfforddwr Canŵ a Chaiac (Dŵr cysgodol)

Hyfforddwr Canŵ a Chaiac (Dŵr cysgodol)

Os ydych am hyfforddi canŵio a chaiacio ar ddŵr cysgodol, mae’r hyfforddiant hwn dros ddeuddydd yn canolbwyntio ar sut i ddysgu’r sgiliau technegol a thactegol i badlwyr canŵ a chaiacau mewn amgylchedd o ddŵr cysgodol.   Bydd y cwrs yn eich helpu i gynllunio a chynnig sesiynau diogel a hwyliog sy’n galluogi’r dysgwyr i wneud cynnydd, a byddwch yn archwilio agweddau penodol i’ch helpu i hyfforddi dysgwyr nodweddiadol sy’n berthnasol i chi a’r amgylchedd dŵr cysgodol.

 

Er mwyn dod yn Hyfforddwr Canŵ a Chaiac (Dŵr Cysgodol) rhaid i chi gwblhau asesiad undydd, sy’n un ymarferol ar y cyfan, yn llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys asesiad o’ch sgiliau hyfforddiant ymarferol a sgiliau diogelwch ac achub; gyda thrafodaeth a chwestiynu proffesiynol ar ben hynny.   

GOFYNION CYN Y CWRS

Hyfforddiant: 

  • Hyfforddiant Craidd i Hyfforddwyr
  • Aelodaeth Cenhedloedd Prydain   

Asesu:

  • Hyfforddiant Craidd i Hyfforddwyr 
  • Hyfforddiant i Hyfforddwyr Canŵ a Chaiac (Dŵr Cysgodol) 
  • Cymhwyster Hyfforddiant eLearning
  • Cofrestriad Asesiad

Tystiolaeth o weithrediad safonau gofynnol:

  • Hyfforddiant Cymorth Cyntaf 1 diwrnod dilys
  • Hyfforddiant Diogelu  
  • Aelodaeth Cenhedloedd Prydain
  • 16 oed neu hŷn 

HYD Y CWRS

Hyfforddiant: 2 ddiwrnod (09:00 - 17:00)

Asesiad: 1 diwrnod (09:00 - 17:00)

PRIS

Hyfforddiant: £200 y person  

Asesiad: £150 y person  

Hyfforddiant Caiacio Dŵr Gwyn

Hyfforddiant Caiacio Dŵr Gwyn

Os ydych yn awyddus i hyfforddi caiacio dŵr gwyn ar ddŵr cymedrol, mae’r hyfforddiant deuddydd hwn yn canolbwyntio ar ddysgu’r sgiliau technegol a thactegol mae ar gaiacwyr dŵr gwyn eu hangen.  Bydd y cwrs ymarferol hwn yn eich helpu i gynllunio a chynnig sesiynau diogel a difyr sy’n galluogi’r dysgwyr i wneud cynnydd, a byddwch yn archwilio agweddau penodol i’ch helpu i hyfforddi dysgwyr nodweddiadol sy’n berthnasol i chi ac i’r amgylchedd o ddŵr gwyn.  

Er mwyn dod yn Hyfforddwr Caiac Dŵr Gwyn, rhaid i chi gwblhau yn llwyddiannus asesiad undydd, sy’n ymarferol ar y cyfan. Bydd hyn yn cynnwys asesiad o’ch sgiliau hyfforddi ymarferol a sgiliau diogelwch ac achub; a bydd trafodaeth a chwestiynu proffesiynol ar ben hynny. 

GOFYNION CYN Y CWRS

Hyfforddiant: 

  • Hyfforddiant Craidd i Hyfforddwyr
  • Arweinydd Caiacio Dŵr Gwyn 
  • Aelodaeth Cenhedloedd Prydain   

Asesu:

  • Hyfforddiant Craidd i Hyfforddwyr 
  • Hyfforddiant i’r Hyfforddwyr Caiacio mewn Dŵr Gwyn 
  • Cymhwyster Hyfforddiant eDdysgu
  • Cofrestriad Asesiad

Tystiolaeth o weithrediad safonau gofynnol:

  • Hyfforddiant Cymorth Cyntaf 1 diwrnod dilys
  • Hyfforddiant Diogelu  
  • Aelodaeth Cenhedloedd Prydain
  • 16 oed neu hŷn 

HYD Y CWRS

Hyfforddiant: 2 ddiwrnod (09:00 - 17:00)

Asesiad: 1 diwrnod (09:00 - 17:00)

PRIS

Hyfforddiant: £200 y pen

Asesiad: £150 y pen

Hyfforddwr Caiacio mewn Dŵr Gwyn (Dŵr Cyflym)

Hyfforddwr Caiacio mewn Dŵr Gwyn (Dŵr Cyflym) 

Os ydych yn awyddus i hyfforddi caiacio dŵr gwyn ar ddŵr cyflym, mae’r hyfforddiant deuddydd hwn yn canolbwyntio ar ddysgu’r sgiliau technegol a thactegol sydd eu hangen ar gaiacwyr dŵr gwyn ar ddŵr cyflym.  Bydd y cwrs ymarferol hwn ar y cyfan yn eich helpu i gynllunio a chynnig sesiynau diogel a hwyliog sy’n galluogi’r dysgwyr i wneud cynnydd, a byddwch yn archwilio agweddau penodol i’ch helpu i hyfforddi rhai dysgwyr nodweddiadol sy’n berthnasol i chi a’r amgylchedd o ddŵr cyflym. 

Er mwyn dod yn Hyfforddwr Caiac Dŵr Gwyn (Dŵr Cyflym), rhaid i chi gwblhau asesiad undydd, sy’n ymarferol ar y cyfan, yn llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys asesiad o’ch sgiliau hyfforddiant ymarferol a sgiliau diogelwch ac achub; gyda thrafodaeth a chwestiynu proffesiynol  ar ben hynny.  

 

Gofynion Cyn Y Cwrs

Hyfforddiant: 

  • Hyfforddiant Craidd i’r Hyfforddwyr
  • Arweinydd Caiac Dŵr Gwyn ar Ddŵr Cyflym 
  • Aelodaeth Cenhedloedd Prydain   

Yr Asesiad:

  • Hyfforddiant Craidd i’r Hyfforddwyr 
  • Hyfforddwr Caiacio ar Ddŵr Gwyn (Dŵr Cyflym) 
  • Cymhwyster Hyfforddiant eLearning
  • Gwiriadau’r Asesiad

Tystiolaeth o’r safonau isafswm sydd eu hangen:

  • Hyfforddiant Cymorth Cyntaf 1 diwrnod dilys
  • Hyfforddiant Diogelu  
  • Aelodaeth Cenhedloedd Prydain 
  • 16 oed neu hŷn 

Hyd Y Cwrs

Hyfforddiant: 2 ddiwrnod (09:00 - 17:00)

Asesiad: 1 diwrnod (09:00 - 17:00)

 

Pris

Hyfforddiant: £200 y pen

Asesiad: £150 y pen