Mae’r cwrs hwn yn rhoi’r lefel sgiliau i chi i arwain grwp o badlwyr mewn lleoliadau priodol hyd at amodau dŵr gwyn cymedrol, ac i farnu’r amodau ynghyd â safon y grŵp er mwyn gwneud penderfyniadau priodol ynghylch a oes angen addasu cynlluniau ai peidio.
Mae’r cwrs Arweinydd Caiacio Dŵr Gwyn yn rhoi pwyslais ar sut mae rhwyfo, er mwyn gallu dysgu technegau addas a rheoli’r cwch mewn sefyllfaoedd go iawn.
Mae’r cymhwyster hwn ar gyfer pobl sydd am arwain padlwyr cymwys mewn amgylchedd dŵr ‘cymedrol’.
Hyfforddiant: Padlo at safon y Cymhwyster Dŵr Gwyn Cynyddol.
Asesu:
Gallwn gynnig cyrsiau pwrpasol i gyfateb i’ch amserlen a’ch lleoliad (efallai y bydd angen isafswm niferoedd).
Mae gennym gyfleuster gwych ar y safle, gyda mynediad hawdd at afonydd ar gyfer ein cyrsiau i gyd. Heb offer/dillad? Neu awydd rhoi cynnig ar ddillad/offer newydd ar yr afon? Mae gennym rai o’r dillad/offer diweddaraf ar y farchnad i chi roi cynnig arnynt.