Ceisio meddwl am anrheg wreiddiol a chyffrous i’r ffrind sydd â phopeth? Efallai yr hoffech chi roi anrheg i’ch partner y gall y ddau ohonoch chi ei mwynhau? Neu efallai eich bod yn chwilio am anrheg Nadolig wefreiddiol i’ch teulu? Beth bynnag y bo’r achlysur, bydd tocynnau rhodd o Ganolfan Dŵr Gwyn Ryngwladol Caerdydd yn eich gwneud yn boblogaidd gyda phawb!
Dewiswch o amrywiaeth o weithgareddau gwych yng Nghaerdydd sy’n addas i bob gallu a chyllideb! Yn addas i’r rhai 6+ oed*, bydd y tocynnau rhodd yn anrheg ddelfrydol ar gyfer y Nadolig, pen-blwydd, profiad priodas, ymddeoliad, pen-blwydd priodas neu ffordd o ddweud diolch.
Beth am ddewis eich hoff weithgaredd? Neu os nad ydych yn siŵr, prynwch docyn rhodd am swm penodol y gall y person arall ei ddefnyddio ar y gweithgaredd o’i ddewis yng Nghanolfan Dŵr Gwyn Ryngwladol Caerdydd.
Gwybodaeth bwysig
Dosbarthu: Caiff ein tocynnau rhodd eu cyflwyno’n awtomatig ar ffurf tocynnau rhithwir a chânt eu hanfon yn uniongyrchol i’ch mewnflwch (neu fewnflwch y cyfeiriad e-bost a nodwyd gennych), wedi’u hatodi i’ch e-bost cadarnhau.
Sylwer: Ar ôl gwneud y taliad, nid ydym yn cynnig unrhyw ad-daliadau. Mae tocynnau rhodd yn ddilys am 12 mis o’r dyddiad rydych yn eu prynu. Rhaid bod dyddiad y gweithgaredd o fewn y cyfnod 12 mis a bydd yn dibynnu ar argaeledd. Dylid cadw lle ar gyfer gweithgareddau ymhell ymlaen llaw trwy ffonio 029 2082 9970 a dyfynnu rhif y tocyn. Ar ôl cadw’r lle, ni fydd modd canslo a chael yr arian yn ôl neu symud y sesiwn i ddyddiad gwahanol. Bydd yn rhaid cyflwyno allbrint o’r e-docyn ar ddiwrnod y gweithgaredd.