Cyhoeddodd Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd heddiw ei fod wedi cael ei gydnabod gan Tripadvisor fel enillydd gwobr Travellers’ Choice 2022 am y 10% uchaf o atyniad yn y BYD! Mae'r wobr yn dathlu busnesau sydd wedi derbyn adolygiadau gwych gan geiswyr antur ledled y byd ar Tripadvisor dros y 12 mis diwethaf. Er mor heriol oedd y flwyddyn ddiwethaf, roedd tîm CIWW yn sefyll allan drwy ddarparu profiadau cadarnhaol yn gyson i'n holl gleientiaid.
Dewch i ni edrych ymlaen at Ŵyl y Banc gwlyb a gwyllt ar ddechrau mis Mai pan fydd yr Ŵyl Badlo yn dychwelyd i ddathlu bod 10 mlynedd wedi mynd heibio ers agor y ganolfan. Dyma’r digwyddiad teuluol gorau posibl i’r rheiny sy’n hoffi’r dŵr, ychydig o antur, byrgyr, neu ddawnsio yn yr haul. Bydd ein pympiau yn defnyddio amrywiaeth o lifoedd drwy gydol y dydd, fel y gallwch fwynhau ystod o weithgareddau sy'n addas i blant 6 oed a hŷn.
Ydych chi wedi rhoi cynnig ar nofio dŵr oer? Efallai ei fod yn swnio fel gweithgaredd ar gyfer y bobl fwyaf anturus, ond mewn gwirionedd mae’n weithgaredd y gall pob un ohonom ei wneud ac mae’n cynnig llawer o fuddion.
Chwilio am rywbeth i gyffroi’r plant yn ystod hanner tymor mis Chwefror? Ysgogwch nhw i adael y gwely i wneud gweithgaredd neu gwrs a fydd yn gwneud iddynt wenu o glust i glust!
Efallai bod yr haf yn dod i ben, ond dydy hynny ddim yn golygu bod rhaid i'r hwyl ddod i ben, yn enwedig o ran cael hwyl y tu allan. Felly gwisgwch mewn un o'n gwisgoedd gwlyb, a dewch i drochi yn y dŵr gydag un o'n gweithgareddau dŵr gwyn niferus sy'n cynnig amser cofiadwy drwy gydol y gaeaf.
Sign up to our newsletter to keep up to date with our latest offers, events and inspiration for adventure.
Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein cynigion, digwyddiadau ac ysbrydoliaeth am antur.