ARCHEBU DRWY’R BOTWM ‘ARCHEBU NAWR
Ffoniwch ni i Archebu
029 2082 9970
E-bost
Dod o hyd i ni
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, Ffordd Watkiss, Bae Caerdydd, CF11 0SY

Cadwch y plant yn actif!

Cyflwynwch eich plant i gampau dŵr dros y gwyliau ysgol gyda’n hamrywiaeth o gyrsiau, sy’n addas i blant dros 6 oed. Mae’r cyrsiau fel arfer yn 5 diwrnod o hyd ac yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau, o ddysgu i syrffio i ganŵio a chaiacio (neu ychydig o bopeth!) Mae ein cyrsiau gwyliau ysgol bob amser yn boblogaidd gyda’r plant a’r rhieni fel ei gilydd!

Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol, felly gall eich plentyn ddechrau o’r dechrau, neu geisio datblygu ei sgiliau padlo ymhellach. Mae sgiliau’n cael eu dysgu drwy amrywiaeth o gemau ac ymarferion llawn hwyl sydd â’r nod o ddatblygu techneg, a bydd digon o amser yn cael ei dreulio ar theori a diogelwch hefyd.

Ysgol Badlo i Bobl Ifanc

Mae’r Ysgol Badlo i Bobl Ifanc yn gyfle gwych i’ch plant gyfuno canŵio a caiacio ar ddŵr gwastad, ac yna symud ymlaen i ddŵr gwyn.

Mae ein cyfleusterau gwych yn cynnwys pwll dŵr gwastad a chwrs dŵr gwyn o safon Olympaidd – rhywbeth i bawb, p’un ai a yw’r plant yn cymryd i’r dŵr am y tro cyntaf neu’n dychwelyd i berffeithio eu techneg.

Unwaith y byddant wedi gwirioni ar chwaraeon dŵr, gallant gofrestru ar gyfer cyrsiau i bawb o bob gallu yn ein Hysgol Badlo, lle bydd ein hyfforddwyr arbenigol yn gweithio gyda nhw i wella eu sgiliau a rhoi hwb i’w hyder ar y dŵr. 

Ysgol Syrffio 5 Diwrnod i Bobl Ifanc

Yn rhedeg drwy gydol y gwyliau ysgol, ein Hysgol Syrffio 5 diwrnod i Bobl Ifanc yw’r cyfle perffaith i’ch plant a’r arddegau wella eu sgiliau syrffio, gan ddefnyddio ein hoffer modern. Mae pobl ifanc yn cael y cyfle i fod o dan do ar ein peiriant syrffio a herio’r tonnau go iawn ar draeth Porthcawl.

O ddydd Llun i ddydd Iau mae yna sesiynau Syrffio Dan Do yn DGRhC i’r rhai ifanc cyn bod y grŵp yn cymryd rhan mewn gwers syrffio mas ar y môr ym Mhorthcawl ddydd Gwener. Does dim angen i chi fecso am offer – mae’r holl git wedi’i gynnwys gyda’r cyrsiau. Y cyfan sydd ei angen ar eich plant yw dillad nofio a thywel i sychu.

Wythnos Gweithgareddau Amrywiol i Bobl Ifanc

Diddanwch eich plant dros y gwyliau – cofrestrwch ar gyfer ein wythnos o weithgareddau amrywiol. Ni fydd yna foment dawel ar y cwrs gwyliau hwn, sy’n cynnwys amrywiaeth o weithgareddau hanner diwrnod.

Gan gymryd bod y tywydd yn caniatáu, bydd eich plant yn cael y cyfle i fwynhau Rafftio Dŵr Gwyn, Cychod Cloch, Caiacio â’r Coesau'n Rhydd, Canŵio ac Adeiladu Rafft, ynghyd â Heriau Tîm, Cychod Pâr ar y Dŵr Gwyn, Corff-fyrddio Dan Do, Padlfyrddio a’r Antur Awyr.

Drwy gofrestru’r plantos ar ein hwythnos o weithgareddau amrywiol, byddant yn siŵr o gael eu diddanu gan lond lle o chwaraeon dŵr – p’un ai a ydynt yn ffafrio profiadau mwy cyffrous, padlo hamddenol neu fod mas ar y dŵr a’r Antur Awyr lle gallant adael i’w hochr wyllt redeg yn rhydd!

Sesiwn Badlo i’r Teulu

Beth am dretio eich teulu cyfan i gwrs yn DGRhC dros y gwyliau ysgol? A nid dim ond y plant fydd yn joio – gall pawb gymryd rhan yn ein Sesiwn Badlo i’r Teulu!

O ddydd Llun i ddydd Iau drwy gydol y gwyliau ysgol, mae ein Sesiynau 2 awr yn ffordd wych i rieni a phlant ddysgu gyda’i gilydd a bondio. Mae ein pwll dŵr gwastad yn hwyl a diogel i’r teulu cyfan – gallwch ddysgu hanfodion Canŵio, Caiacio neu Badlfyrddio gyda’ch gilydd.

Dewiswch rhwng sesiwn bore neu brynhawn cyn mwynhau brechdanau ffres, cacennau cartref a hufen iâ sydd wedi ennill gwobrau yn ein caffi.  

Rhagflas Padlfyrddio

Os nad ydych yn siŵr sut mae llenwi eich boreau neu brynhawniau Sul o hyd, rydym yn cynnig rhagflas Padlfyrddio sy’n addas i unrhyw un dros 12 oed, felly gallwch ddod â’ch plant yma neu eu cofrestru ar gyrsiau eraill a rhoi cynnig ar y sesiwn hon eich hun.

Mae Padlfyrddio yn gyfuniad o syrffio a chanŵio / caiacio sy’n ffordd wych o fwynhau’r dŵr gwastad ac ymarfer y corff cyfan ar yr un pryd. Felly, peidiwch â chael eich gadael ar ôl – dewch i fwynhau’r awyr agored a rhoi cynnig ar y gamp ddŵr sy’n tyfu gyflymaf yn y byd!

Cofrestrwch eich padlfyrddwyr bach heddiw a rhowch wyliau ysgol i’w gofio iddynt! Gallwch ymuno yn yr hwyl gyda nhw yn ein Rhagflas Padlfyrddio i’r Teulu, sy’n 2 awr o hyd, o ddydd Llun i ddydd Gwener a’r sesiynau Rafftio i’r Teulu (ffoniwch ni ar 029 2082 9970 i gadarnhau amseroedd a dyddiadau yn ystod y gwyliau ysgol).

School Holidays Activities List
Cyflwyniad i Badlfyrddio Sefyll Cymysg (Dydd Mercher)

Dysgwch sut i Badfyrddio gyda'n Sesiwn Flasu Padlfyrddio. Yn ystod y sesiwn 2 awr bydd ein hyfforddwyr yn dysgu'r holl gynghorion sydd angen arnoch chi i ddechrau padlfyrddio, gan gynnwys sut i baratoi ar gyfer padlfyrddio, sut i fynd ar badlfwrdd, ymarferion cydbwyso ar gyfer padlfyrddio, ac wrth gwrs sut i fynd yn ôl ar badlfwrdd ar ôl syrthio. Mae hyn yn addas ar gyfer plant 12+oed ac mae'n costio £35 y person. Hyd y sesiwn

Sesiynau Blas ar Badlo i Deuluoedd

Am roi cynnig ar weithgaredd newydd? Mae ein Sesiynau Blasu 2 awr o hyd yn wych i rieni a phlant ddysgu gyda’i gilydd. Mae ein pwll dwr gwastad yn sbort ac yn lle diogel i ddysgu sgiliau Canwio, Caiacio a Phadl-fyrddio sylfaenol. 

Wythnos Amlweithgareddau Pobl Ifanc

Cadwch eich plant yn actif gyda’n hwythnos iachus o weithgareddau hanner diwrnod. Ein hwythnos o weithgareddau amrywiol yw’r cyfle perffaith i gyflwyno eich plant i chwaraeon dŵr, neu eu galluogi i wella eu sgiliau mewn amgylchedd tîm hwyl.

Ysgol Badlo i Bobl Ifanc

Mae’r cwrs hwn ar gyfer pobl ifanc heb lawer o brofiad o gaiacio, neu ddim o gwbl. Y ffocws fydd meithrin y sgiliau sylfaenol sydd eu hangen ar gyfer padlo ar ddŵr gwyn. Drwy gydol yr wythnos byddwn yn helpu padlwyr ifanc i ddatblygu’r sgiliau a’r hyder mae arnynt eu hangen i’w gwthio eu hunain i allu rheoli eu cychod gyda steil ar hyd y dŵr gwyn. Ein nod yw cynnig sylfaen gadarn o sgiliau craidd i badlwyr ar gyfer eu gyrfa badlo.

Gweithgareddau Amrywiol I Bobl Ifanc - 2 Ddiwrnod

Mae ein Gweithgareddau Amrywiol i Bobl Ifanc - 2 Ddiwrnod, yn gyfle perffaith i gyflwyno chwaraeon dŵr gwastad, teithio'r tonnau a dringo i'r brig i'ch plant!