ARCHEBU DRWY’R BOTWM ‘ARCHEBU NAWR
Ffoniwch ni i Archebu
029 2082 9970
E-bost
Dod o hyd i ni
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, Ffordd Watkiss, Bae Caerdydd, CF11 0SY

Mae ein Gweithgareddau Amrywiol i Bobl Ifanc - 2 Ddiwrnod, yn gyfle perffaith i gyflwyno chwaraeon dŵr gwastad, teithio'r tonnau a dringo i'r brig i'ch plant! Yn cynnwys llond lle o gyrsiau i’ch plant roi cynnig arnynt, mae’r Gweithgareddau Amrywiol i Bobl Ifanc - 2 Ddiwrnod yn cynnwys:

Caiacio â’ch Coesau'n Rhydd Dŵr Gwastad

Yn ystod y cwrs hwn bydd plant yn dysgu am ddarllen afonydd a diogelwch ar y dŵr, a byddant yn cael cyfle i ddatblygu eu sgiliau a'u technegau padlo dŵr sy'n symud. Dyma’r gweithgaredd perffaith i’r rhai sydd am wella eu padlo a rheoli caiac.

Canŵio Dŵr Gwastad

Ffordd wych arall i blant ddatblygu eu sgiliau padlo craidd ar ddŵr sy’n symud / dŵr agored yw'r cwrs canŵio. Caiff cyfranogwyr gyfle i berffeithio eu techneg padlo gan ddefnyddio ein cyfleusterau chwaraeon padlo gwych, gan gynnwys pwll dŵr gwastad a chwrs dŵr gwyn o safon Olympaidd.

Bydd ein hyfforddwyr hwyliog a chyfeillgar yn gweithio gyda'r plant i wella eu sgiliau canŵio a rhoi hwb i'w hyder cyffredinol ar y dŵr.

Padlfyrddio

Bydd cyfuniad o ganŵio / caiacio a syrffio, padlfyrddio, yn rhoi cyfle i’ch plant roi cynnig ar badl dull canŵ gan symud drwy'r dŵr ar fwrdd mawr. Mae padlfyrddio yn dod yn fwyfwy poblogaidd a gellir ei addasu yn ôl hwyliau’r cyfranogwr, gan ei alluogi i benderfynu ar lefel yr ymdrech a’r math o brofiad mae’n ei gael!

Mae’r cwrs hwn yn ffordd wych i’r plant fwynhau’r dŵr gwastad a chael rhywfaint o ymarfer corff wrth iddynt badlfyrddio o gwmpas Bae Caerdydd.

Ton Dan Do

Mae ein peiriant ton dan do yn Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd yn cynnig cyfle unigryw i ddysgu sut i syrffio a chorff-fyrddio mewn amgylchedd diogel a reolir.

Teimlwch y rhuthr o deithio’r tonnau gyda'n efelychydd ton dan do Flowrider sy'n creu haen diddiwedd o ddŵr llyfn - perffaith ar gyfer dechreuwyr yn ogystal â’r rheiny â phrofiad sy'n chwilio am ychydig o amser ychwanegol ar y bwrdd.

Antur Awyr

Gan ddod â’r plant allan o'r dŵr ac ar y rhaffau uchel, mae’r Antur Awyr yn eu herio i roi cynnig ar y strwythur dur a phren dros y cwrs Dŵr Gwyn.

Does dim angen offer na phrofiad, y cwbl sydd ei angen ar y bobl ifanc i ddechrau ar eu siwrne drwy Bont Burma, y Swing Mwnci, Cropian Mewn Casgen a’r Weiren Wib yw hwyl ac antur!

Wal Ddringo

Cyrhaeddwch frig ein wal ddringo gyffrous. Bydd yr amryw linellau a lefelau anhawster yn ymarfer eich ystwythder. Drwy weithio fel tîm byddwch yn siŵr o gyrraedd y brig!

Drwy barhau i drefnu’r sesiwn hon a thalu amdani, rydych chi’n cytuno â'n 'Telerau ac Amodau Hyfforddiant DGRhC' sydd i’w darllen yma.

Gofynion

  1. 8-16 oed

Beth i ddod gyda chi

  1. Tywel
  2. Dillad nofio
  3. Darn £1 ar gyfer y locer
  4. Cinio

Amserlen

2 Ddiwrnod - Tua 5 awr y dydd (ni ddarperir cinio)

27 Mai 2024 - 28 Mai 2024

22 Gorffennaf 2024 - 23 Gorffennaf 2024

29 Gorffennaf 2024 - 30 Gorffennaf 2024

05 Awst 2024 - 06 Awst 2024

12 Awst 2024 - 13 Awst 2024

19 Awst 2024 - 20 Awst 2024

26 Awst 2024 - 27 Awst 2024

Gwybodaeth Allweddol
Profiad
Dim
Oedran
8 - 16 oed
Hyd y Cwrs
2 diwrnod
Pris
£125 y pen