Cwrs cyflym gydag un nod, i ddatblygu eich sgiliau caiacio yn gyflym, waeth beth yw eich profiad. Gan ddechrau drwy adeiladu sgiliau sylfaenol cryf ar y dŵr gwastad, byddwn yn eich symud ymlaen yn gyflym i'n dŵr garw gwyn cyffrous. Bydd ein hyfforddwyr hynod brofiadol a brwdfrydig yn rhoi'r wybodaeth a'r adborth i chi er mwyn gwella eich caiacio!
Oes gennych berson ifanc sy'n awyddus i herio’r tonnau? Mae'r cwrs cyflym hwn yn canolbwyntio ar un peth, datblygu sgiliau caiacio yn gyflym. Gan ddechrau gydag adeiladu sylfeini cryf ar ddŵr gwastad, bydd eich syrffiwr ifanc yn symud ymlaen yn gyflym i'r dŵr gwyn lle bydd yn ennill gwybodaeth a sgiliau helaeth gan ein hyfforddwyr profiadol ac angerddol. Y cwrs hwn yw'r cam gorau i'w gymryd os hoffai eich person ifanc gymryd rhan yn ein rhaglen Academi Plant.
Am roi cynnig ar weithgaredd newydd? Mae ein Sesiynau Blasu 2 awr o hyd yn wych i rieni a phlant ddysgu gyda’i gilydd. Mae ein pwll dwr gwastad yn sbort ac yn lle diogel i ddysgu sgiliau Canwio, Caiacio a Phadl-fyrddio sylfaenol.
Sign up to our newsletter to keep up to date with our latest offers, events and inspiration for adventure.
Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein cynigion, digwyddiadau ac ysbrydoliaeth am antur.
Your javascript appears to be disabled
Please enable your javascript for an optimal viewing experience