ARCHEBU DRWY’R BOTWM ‘ARCHEBU NAWR
Ffoniwch ni i Archebu
029 2082 9970
E-bost
Dod o hyd i ni
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, Ffordd Watkiss, Bae Caerdydd, CF11 0SY

Oes gennych berson ifanc sy'n awyddus i herio’r tonnau? Mae'r cwrs cyflym hwn yn canolbwyntio ar un peth, datblygu sgiliau caiacio yn gyflym. Gan ddechrau gydag adeiladu sylfeini cryf ar ddŵr gwastad, bydd eich syrffiwr ifanc yn symud ymlaen yn gyflym i'r dŵr gwyn lle bydd yn ennill gwybodaeth a sgiliau helaeth gan ein hyfforddwyr profiadol ac angerddol. Y cwrs hwn yw'r cam gorau i'w gymryd os hoffai eich person ifanc gymryd rhan yn ein rhaglen Academi Plant. 

 

Drwy barhau i drefnu’r sesiwn hon a thalu amdani, rydych chi’n cytuno â'n 'Telerau ac Amodau Hyfforddiant DGRhC' sydd i’w darllen yma.

 

Dewch â’r canlynol

 

  1. Tywel
  2. Dillad nofio
  3. Darn £1 ar gyfer y locer

 

Gofynion

 

  1. 10-17 oed
  2. Gallu nofio
  3. Does dim angen profiad ymlaen llaw

 

Amserlen

 

Cwrs 2 Ddiwrnod - Tua 5 awr y dydd (Sad/Sul)

Cwrs 4 wythnos: 5:30pm-8:30pm (4 Nos Fercher yn olynol)

Gwybodaeth Allweddol
PROFIAD
Y gallu i nofio
Oedran
Rhaid i gyfranogwyr fod rhwng 12-17 oed
HYD Y CWRS
Cwrs Penwythnos (10:00-15:00 bob dydd) neu Gwrs gyda’r hwyr (4 nos Fercher yn olynol 17:30 - 20:30)
PRIS
£140 y pen