I’r rhai sy’n dewis cadw rhag y dŵr, mae gan DCRhC bob math o weithgareddau ‘sych’!
Uwch bopeth mae’r Antur Awyr – ein cwrs rhaffau antur uchel sy’n boblogaidd ymhlith oedolion a phlant. Yn tyrru uwch y dŵr gwych, mae gan yr Antur Awyr bob math o rwystrau i herio’ch hyblygrwydd, symudedd a’ch sgiliau datrys problemau.
Neu, beth am goncro’r Wal Ddringo? Byddwch yn dysgu’r holl sgiliau sydd eu hangen arnoch i weithio’ch ffordd i’r brig.