Yn unol â chanllawiau presennol Llywodraeth Cymru rydym wedi cau dros dro. Os ydych wedi trefnu archeb gyda ni yn y dyfodol agos byddwn yn cysylltu â chi i wneud trefniadau amgen. Mae ein talebau yn dal i fod ar gael ar-lein https://www.dgrhc.com/talebau-anrheg/ ac yn ddilys am gyfnod estynedig. Mae modd cysylltu â ni yn ystod oriau swyddfa o Ddydd Llun i Ddydd Gwener ar info@ciww.com. Byddwn yn cyhoeddi’r wybodaeth ddiweddaraf ar ein cyfryngau cymdeithasol @cardiffintww
Cadwch eich plant yn actif gyda’n hwythnos iachus o weithgareddau hanner diwrnod. Ein hwythnos o weithgareddau amrywiol yw’r cyfle perffaith i gyflwyno eich plant i chwaraeon dŵr, neu eu galluogi i wella eu sgiliau mewn amgylchedd tîm hwyl. Mae’r Wythnos Gweithgareddau Amrywiol i Bobl Ifanc yn cynnwys llond lle o gyrsiau:
Yn addas i blant 6+ oed, mae’r cwrs Rafftio Dŵr Gwyn yn cynnwys nifer o droeon a llethrau, sy’n siŵr o gadw’r bobl ifanc ar flaenau eu traed wrth iddynt lywio’r tonnau.
Mae’n ffordd wych i’ch plant brofi eu sgiliau padlo, ac yn rhywbeth y dylai pawb roi cynnig arno o leiaf unwaith!
Yn ystod y cwrs hwn bydd plant yn dysgu sut mae darllen afon a chadw’n ddiogel yn y dŵr, ac yn cael y cyfle i ddatblygu eu sgiliau a’u technegau padlo ar ddŵr sy’n symud. Dyma’r gweithgaredd perffaith i’r rheini sydd am wella eu padlo a’u rheolaeth o gaiac.
Mae’r cwrs canŵio yn ffordd wych arall i blant ddatblygu eu sgiliau padlo craidd ar ddŵr sy’n symud/dŵr agored. Bydd y sawl sy’n cymryd rhan yn cael y cyfle i berffeithio eu techneg badlo gan ddefnyddio ein cyfleusterau chwaraeon padlo arbennig, gan gynnwys pwll dŵr gwastad a chwrs dŵr gwyn o safon Olympaidd.
Bydd ein hyfforddwyr clên a chyfeillgar yn gweithio gyda’r plant i wella eu sgiliau canŵio a rhoi hwb i’w hyder ar y dŵr.
Mae’r cwrs Cychod Pâr hefyd wedi’i gynnwys yn ein hwythnos o weithgareddau amrywiol. Mae’r caiacau aer, 2-ddyn hyn, a elwir yn ‘gŵn poeth’, yn profi eich sgiliau cyfathrebu ac yn gyffrous iawn hefyd.
Perffaith os ydych am roi profiad newydd i’ch plant ar y dŵr gwyn – byddant yn taclo rhannau heriol o’r cwrs, rhwystrau a llethrau.
I badlfyrddio, sy’n gyfuniad o ganŵio/caiacio a syrffio, bydd eich plant yn cael padl, sy’n debyg i badl canŵ, i symud drwy’r dŵr ar fwrdd mawr. Mae padlfyrddio yn dod yn fwyfwy poblogaidd a gellir ei addasu i hwyliau’r cyfranogwr, gan ei alluogi i benderfynu ar lefel yr ymdrech a’r math o brofiad mae’n ei gael!
Mae’r cwrs hwn yn ffordd wych i’r plant fwynhau’r dŵr gwastad a chael rhywfaint o ymarfer corff wrth iddynt badlfyrddio o gwmpas Bae Caerdydd.
Mae’r Antur Awyr, sy’n cymryd y plant mas o’r dŵr ac i’r rhaffau uchel, yn siŵr o ddod â’r mwnci mas ohonyn nhw! Mae’n eich herio i fod yn ddewr a dilyn y llwybr fry uwchben y cwrs Dŵr Gwyn.
Nid oes angen unrhyw offer na phrofiad – y cyfan sydd ei angen yw awch am antur. Bydd eich plant yn herio Pont Burma, Siglen y Mwnci, y Gasgen a’r Weiren Wib mewn dim o dro!
Mae’r pecyn gweithgareddau amrywiol hefyd yn cynnwys heriau tîm, Corff-fyrddio Dan Do, Adeiladu Rafft a Chychod Cloch. Mae’r gweithgareddau hanner diwrnod yn digwydd dros bum diwrnod ac maent yn addas i blant 8-16 oed.
*Mae’r holl weithgareddau yn dibynnu ar y tywydd