Yn unol â chanllawiau presennol Llywodraeth Cymru rydym wedi cau dros dro. Os ydych wedi trefnu archeb gyda ni yn y dyfodol agos byddwn yn cysylltu â chi i wneud trefniadau amgen. Mae ein talebau yn dal i fod ar gael ar-lein https://www.dgrhc.com/talebau-anrheg/ ac yn ddilys am gyfnod estynedig. Mae modd cysylltu â ni yn ystod oriau swyddfa o Ddydd Llun i Ddydd Gwener ar info@ciww.com. Byddwn yn cyhoeddi’r wybodaeth ddiweddaraf ar ein cyfryngau cymdeithasol @cardiffintww
Arweinydd Caiac Dŵr Gwyn Uwch
Os ydych am arwain caiacwyr dŵr gwyn ar deithiau afon o safon uwch, mae’r hyfforddiant deuddydd hwn yn canolbwyntio ar y lefel uchel o sgiliau personol, crebwyll ac arweinyddiaeth sydd eu hangen mewn sefyllfaoedd mwy heriol. Mae’r cwrs yn cynnwys sgiliau padlo personol, sgiliau achub, diogelwch, arweinyddiaeth a sgiliau grŵp ynghyd â’r theori.
Er mwyn dod yn Arweinydd Caiacio Dŵr Gwyn Uwch, rhaid i chi gwblhau’n llwyddiannus asesiad dau ddiwrnod, ymarferol ar y cyfan ar rannau o ddŵr gwyn, sy’n cynnwys teithiau addas ar afonydd. Rhaid i Arweinyddion Caiacio Dŵr Gwyn Uwch gael y lefel o sgiliau personol, y gallu arweinyddol a’r crebwyll i arwain padlwyr gydag ystod o brofiad, hyd at, ac yn cynnwys safon dŵr gwyn uwch.
GOFYNION CYN Y CWRS
Hyfforddiant: Arweinydd Caiacio Dŵr Gwyn
Yr Asesiad:
HYD Y CWRS
Hyfforddiant: 2 ddiwrnod (09:00 - 17:00)
Asesiad: 2 ddiwrnod (09:00 - 17:00)
PRIS
Hyfforddiant: £180 y person
Asesiad: £180 y person