ARCHEBU DRWY’R BOTWM ‘ARCHEBU NAWR
Ffoniwch ni i Archebu
029 2082 9970
E-bost
Dod o hyd i ni
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, Ffordd Watkiss, Bae Caerdydd, CF11 0SY

Hyfforddwr Canŵ a Chaiac (Dŵr cysgodol)

Os ydych am hyfforddi canŵio a chaiacio ar ddŵr cysgodol, mae’r hyfforddiant hwn dros ddeuddydd yn canolbwyntio ar sut i ddysgu’r sgiliau technegol a thactegol i badlwyr canŵ a chaiacau mewn amgylchedd o ddŵr cysgodol.   Bydd y cwrs yn eich helpu i gynllunio a chynnig sesiynau diogel a hwyliog sy’n galluogi’r dysgwyr i wneud cynnydd, a byddwch yn archwilio agweddau penodol i’ch helpu i hyfforddi dysgwyr nodweddiadol sy’n berthnasol i chi a’r amgylchedd dŵr cysgodol.

Er mwyn dod yn Hyfforddwr Canŵ a Chaiac (Dŵr Cysgodol) rhaid i chi gwblhau asesiad undydd, sy’n un ymarferol ar y cyfan, yn llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys asesiad o’ch sgiliau hyfforddiant ymarferol a sgiliau diogelwch ac achub; gyda thrafodaeth a chwestiynu proffesiynol ar ben hynny.   

 

Gofynion Cyn Y Cwrs

Hyfforddiant: 

  • Hyfforddiant Craidd i Hyfforddwyr
  • Aelodaeth Cenhedloedd Prydain   

Asesu:

  • Hyfforddiant Craidd i Hyfforddwyr 
  • Hyfforddiant i Hyfforddwyr Canŵ a Chaiac (Dŵr Cysgodol) 
  • Cymhwyster Hyfforddiant eLearning
  • Cofrestriad Asesiad

Tystiolaeth o weithrediad safonau gofynnol:

  • Hyfforddiant Cymorth Cyntaf 1 diwrnod dilys
  • Hyfforddiant Diogelu  
  • Aelodaeth Cenhedloedd Prydain
  • 16 oed neu hŷn 


Hyd Y Cwrs

Hyfforddiant: 2 ddiwrnod (09:00 - 17:00)

Asesiad: 1 diwrnod (09:00 - 17:00)

 

Pris

Hyfforddiant: £200 y pern

Asesiad: £150 y pen

Gwybodaeth Allweddol
RHESWM DROS DDEWIS DGRHC?
Mae gennym gyfleuster gwych ar y safle, gyda mynediad hawdd at afonydd ar gyfer ein cyrsiau i gyd. Dim offer/dillad gennych neu am roi cynnig ar ddillad/offer newydd ar yr afon? Mae gennym beth o’r dillad/offer diweddaraf ar y farchnad i chi gael rhoi cynnig arnynt.
NID YW’R DYDDIADAU YMA’N GWEITHIO I CHI?
Gallwn gynnig cyrsiau pwrpasol i gyfateb â’ch amserlen a’ch lleoliad. (Efallai y bydd angen isafswm rhifau).