ARCHEBU DRWY’R BOTWM ‘ARCHEBU NAWR
Ffoniwch ni i Archebu
029 2082 9970
E-bost
Dod o hyd i ni
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, Ffordd Watkiss, Bae Caerdydd, CF11 0SY

Diogelwch ac Achub Sylfaenol  

Os ydych am ddatblygu eich sgiliau diogelwch ac achub mewn amgylchedd dŵr cysgodol, mae’r cwrs undydd ymarferol hwn yn cyflwyno’r prif sgiliau sydd eu hangen arnoch i weithredu’n ddiogel ac i ddelio ag argyfyngau cyffredin. 

Mae’r cwrs hwn yn cynnwys theori a chynllunio cyffredinol, yn ogystal â sut i achub o’r lan, ac achub o gwch.   Mae’r cwrs hwn yn agored i badlwyr, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr, mewn unrhyw grefft neu ddisgyblaeth, gyda dewis i achub o’r lan neu o gwch, gan roi’r cyfle a’r gefnogaeth i chi ddatblygu eich sgiliau diogelwch. 

 

Gofynion Cyn Y Cwrs

  • Cymhwyster Paddle Explore neu 2 Seren (os yn cymryd rhan o gwch) neu o allu cyfatebol o gofio’r amgylchedd padlo a’r rheolaeth o’r cwch sydd ei angen i gwblhau’r cwrs. 
  • Yn gallu nofio mewn dillad padlo arferol. 

 

Hyd Y Cwrs

1 Diwrnod (09:00 - 17:00)

 

Pris

£110 y pen

 

Gwybodaeth Allweddol
RHESWM DROS DDEWIS DGRHC?
Mae gennym gyfleuster gwych ar y safle, gyda mynediad hawdd at afonydd ar gyfer ein cyrsiau i gyd. Dim offer/dillad gennych neu am roi cynnig ar ddillad/offer newydd ar yr afon? Mae gennym beth o’r dillad/offer diweddaraf ar y farchnad i chi gael rhoi cynnig arnynt
NID YW’R DYDDIADAU YMA’N GWEITHIO I CHI?
Gallwn gynnig cyrsiau pwrpasol i gyfateb â’ch amserlen a’ch lleoliad. (Efallai y bydd angen isafswm rhifau)