ARCHEBU DRWY’R BOTWM ‘ARCHEBU NAWR
Ffoniwch ni i Archebu
029 2082 9970
E-bost
Dod o hyd i ni
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, Ffordd Watkiss, Bae Caerdydd, CF11 0SY

Hyfforddwr Caiacio mewn Dŵr Gwyn (Dŵr Cyflym) 

Os ydych yn awyddus i hyfforddi caiacio dŵr gwyn ar ddŵr cyflym, mae’r hyfforddiant deuddydd hwn yn canolbwyntio ar ddysgu’r sgiliau technegol a thactegol sydd eu hangen ar gaiacwyr dŵr gwyn ar ddŵr cyflym.  Bydd y cwrs ymarferol hwn ar y cyfan yn eich helpu i gynllunio a chynnig sesiynau diogel a hwyliog sy’n galluogi’r dysgwyr i wneud cynnydd, a byddwch yn archwilio agweddau penodol i’ch helpu i hyfforddi rhai dysgwyr nodweddiadol sy’n berthnasol i chi a’r amgylchedd o ddŵr cyflym. 

Er mwyn dod yn Hyfforddwr Caiac Dŵr Gwyn (Dŵr Cyflym), rhaid i chi gwblhau asesiad undydd, sy’n ymarferol ar y cyfan, yn llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys asesiad o’ch sgiliau hyfforddiant ymarferol a sgiliau diogelwch ac achub; gyda thrafodaeth a chwestiynu proffesiynol  ar ben hynny.  

 

Gofynion Cyn Y Cwrs

Hyfforddiant: 

  • Hyfforddiant Craidd i’r Hyfforddwyr
  • Arweinydd Caiac Dŵr Gwyn ar Ddŵr Cyflym 
  • Aelodaeth Cenhedloedd Prydain   

Yr Asesiad:

  • Hyfforddiant Craidd i’r Hyfforddwyr 
  • Hyfforddwr Caiacio ar Ddŵr Gwyn (Dŵr Cyflym) 
  • Cymhwyster Hyfforddiant eLearning
  • Gwiriadau’r Asesiad

Tystiolaeth o’r safonau isafswm sydd eu hangen:

  • Hyfforddiant Cymorth Cyntaf 1 diwrnod dilys
  • Hyfforddiant Diogelu  
  • Aelodaeth Cenhedloedd Prydain 
  • 16 oed neu hŷn 

Hyd Y Cwrs

Hyfforddiant: 2 ddiwrnod (09:00 - 17:00)

Asesiad: 1 diwrnod (09:00 - 17:00)

 

Pris

Hyfforddiant: £200 y pen

Asesiad: £150 y pen

Gwybodaeth Allweddol
RHESYMAU DROS DDEWIS DGRHC?
Mae gennym gyfleuster gwych ar y safle, gyda mynediad hawdd at afonydd ar gyfer ein cyrsiau i gyd. Heb offer/dillad? Neu awydd rhoi cynnig ar ddillad/offer newydd ar yr afon? Mae gennym rai o’r dillad/offer diweddaraf ar y farchnad i chi roi cynnig arnynt.
NID YW’R DYDDIADAU YMA’N GWEITHIO I CHI?
Gallwn gynnig cyrsiau pwrpasol i gyfateb i’ch amserlen a’ch lleoliad (efallai y bydd angen isafswm niferoedd).