ARCHEBU DRWY’R BOTWM ‘ARCHEBU NAWR
Ffoniwch ni i Archebu
029 2082 9970
E-bost
Dod o hyd i ni
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, Ffordd Watkiss, Bae Caerdydd, CF11 0SY

Chwilio am rywbeth i gyffroi’r plant yn ystod hanner tymor mis Chwefror?

Ysgogwch nhw i adael y gwely i wneud gweithgaredd neu gwrs a fydd yn gwneud iddynt wenu o glust i glust!

Kids_February_Half_Term_Activities_From_CIWW_Cardiff

Defnyddiwch eu hegni yn ystod yr wythnos!

Os yw Covid wedi difetha eu hymrwymiadau ar ôl yr ysgol, yna mae Hanner Tymor Mis Chwefror yn rhoi cyfle gwych i ganolbwyntio ar eu diddordebau. Rydym yn cynnal Wythnos Amlweithgareddau Pobl Ifanc sy’n cynnig blas i blant rhwng 8 a 16 oed ar nifer o weithgareddau i godi eu hawydd am antur, a'u cadw allan o drwbl bob dydd! 

Kids_February_Half_Term_Activities_CIWW_Cardiff

Byddant yn gallu profi rafftio dwr gwyn, caiacio â’u coesau'n rhydd, canŵio, cychod pâr ar y dwr gwyn, rhaffau uchel yr antur awyr, padlfyrddio, adeiladu rafft a chychod cloch, a bydd ein hyfforddwyr proffesiynol yn barod ac yn aros i harneisio eu brwdfrydedd ac i adeiladu ar eu sgiliau presennol.

Air_Trail_High_Ropes_CIWW

Y cyfan y mae angen ei wneud yw cadw lle ar-lein, a'u gollwng wrth ein drws am 10am bob dydd, gan eich rhyddhau i weithio gartref neu i fwynhau bach o lonydd!

Oes gennych blentyn sy’n frwd dros badlo?

5_Day_Youth_Paddle_School_CIWW_Cardiff

Yn digwydd ochr yn ochr â'r Wythnos Amlweithgareddau Pobl Ifanc yn Hanner Tymor mis Chwefror, y mae’r Ysgol Badlo 5 Diwrnod i Bobl Ifanc. Unwaith eto, yn addas ar gyfer plant 8-16 oed, sydd heb lawer neu heb unrhyw brofiad o fod mewn caiac. Mae'r wythnos hon yn canolbwyntio'n fawr ar feithrin sgiliau padlo yn y dŵr gwyn a lefelau hyder i roi hwb i'w gyrfa badlo!

Chwilio am weithgareddau i'w mwynhau fel teulu?

Mae Sesiynau Blas ar Gaiacio a Chanŵio, Sesiynau Blas ar Badlfyrddio, Rafftio Dŵr Gwyn i’r Teulu, yr Antur Awyr, Tiwbio Dŵr Gwyn i’r Teulu, Rafftau Bach a Chychod Pâr i gyd yn weithgareddau Hanner Tymor mis Chwefror gwych a chofiadwy i’r teulu, sy’n addas ar gyfer ystod eang o oedrannau. Rydym yn cynnig y man perffaith i gwrdd â ffrindiau, yn agos at Fae Caerdydd a chanol dinas Caerdydd y gallwch fynd iddynt i gael mwy o hwyl wedyn!

Angen diddanu plant iau?

Caiff plant 6+ oed gymryd rhan yn eich gweithgareddau (yn dibynnu ar daldra), felly os oes gennych blant iau anturus, cadwch le ar eu cyfer ar gwrs rhaffau uchel yr Antur Awyr ac ar ein sesiynau Rafftio Dŵr Gwyn i’r Teulu

Ni waeth be fo’r tywydd yn ystod Hanner Tymor mis Chwefror, mae’n sicr y byddwn yma i helpu eich plant i gael cymaint o hwyl ac antur â phosibl!