ARCHEBU DRWY’R BOTWM ‘ARCHEBU NAWR
Ffoniwch ni i Archebu
029 2082 9970
E-bost
Dod o hyd i ni
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, Ffordd Watkiss, Bae Caerdydd, CF11 0SY

1. Rafftio Dŵr Gwyn i’r Teulu, Canolfan Dŵr Gwyn Ryngwladol Caerdydd

Reidiwch y dyfroedd gwyllt fel teulu gyda phrofiad rafftio dwy awr o hyd DGRhC i’r teulu ar y cwrs dŵr gwyn arbennig. Mae Canolfan Dŵr Gwyn Ryngwladol Caerdydd, sef un o’r unig ddau gwrs dŵr gwyn ar alw o safon Olympaidd yn y DU, yn lleoliad gwych i brofi cyffro a sblashis y cwrs ar gyflymder sy’n addas i deulu. Mae sesiynau rafftio i’r teulu yn cael eu cynnal ar lefel ddŵr sy’n is na’r profiad dŵr gwyn llawn, fel y gall aelodau iau’r teulu gael cyfle i fwynhau hefyd.

Family Rafting

Felly bachwch eich rhieni, eich neiniau a theidiau, eich modrybedd, eich ewythrod, eich cefndryd a chyfnitherod a’ch ffrindiau, a llenwi rafft i’r teulu sydd â lle i chwech o bobl, am antur y byddwch yn sôn amdani am flynyddoedd i ddod!

Yn addas i blant 6 oed a hŷn.

2. Padlfyrddio, Bae Caerdydd

Beth am badlfyrddio, neu ‘SUP’ fel y’i gelwir, i’r teulu ar ddiwrnod tawel a chynnes o haf. Dyma weithgaredd gwych i’r rhai hynny sydd eisiau dysgu sgil newydd a mentro allan ar y dŵr agored. Gadewch i’r plant fwynhau a gwneud rhywfaint o ymarfer corff heb iddynt hyd yn oed sylwi, a gwyliwch eu hyder yn magu wrth iddynt ddatblygu o fod ar eu pen gliniau i sefyll ar eu traed. Mae SUP hefyd yn cynnig sylfaen wych i adeiladu ar sgiliau padlo plant, gan eu paratoi’n dda ar gyfer y rhan fwyaf o chwaraeon padlo.

Stand Up Paddleboarding

Os ydych yn credu y dylech gyflwyno eich plant i SUP cyn i chi fentro ar y dŵr gyda’ch gilydd, yna mae DGRhC yn cynnig y cwrs SUP rhagarweiniol i blant drwy gydol gwyliau’r haf – gan fynd i’r afael â thechneg a diogelwch ar y dŵr er mwyn eu helpu nhw i fagu hyder ac ymgyfarwyddo â’r hanfodion.

Yn addas i blant 8 oed a hŷn.

3. Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Sain Ffagan

Archwiliwch Gymru o’r cyfnod Celtaidd hyd heddiw yn Amgueddfa Hanes Genedlaethol Sain Ffagan. Ers 1948, mae mwy na 50 o adeiladau gwreiddiol o wahanol gyfnodau hanesyddol wedi’u hail godi yn yr Amgueddfa. Mae crefftau a gweithgareddau traddodiadol yn dod â Sain Ffagan yn fyw mewn gweithdai lle mae crefftwyr yn dal i arddangos eu sgiliau traddodiadol.

St Fagans High Ropes Coed Lan

Gall plant grwydro Yr Iard, ardal chwarae newydd sbon wedi’i dylunio gan yr artist Nils Norman, ac wedi’i hysbrydoli gan adeiladau hanesyddol yr Amgueddfa. Gall ymwelwyr dewr ddewis rhoi cynnig ar CoedLan, cwrs rhaffau uchel newydd wedi’i leoli yng nghanol coed ffawydd yr Amgueddfa. Ewch ati i ddringo, siglo a chrynu eich ffordd drwy’r coed, a gweld golygfeydd Sain Ffagan o uchder, cyn gwibio ar wifren yn ôl lawr i’r ddaear.

Addas i bob oed. Rhaid bod yn 110cm o daldra man lleiaf i ddefnyddio cwrs Coed Lan.

4. Cerdded Ceunentydd, Cwm Nedd

Os nad yw’r holl bethau uchod yn ddigon cyffrous i chi a’ch plant, yna byddwch yn barod i neidio oddi ar ymylon greigiau, drigo y tu ôl i raeadrau a phlymio i byllau dyfnion wrth gerdded ceunentydd drwy odidowgrwydd Cwm Nedd. Gallwch ddewis manteisio ar daith bws o ganolfan DGRhC ym Mae Caerdydd neu drefnu teithio eich hun i’r man cwrdd yng Nghwm Nedd – oddeutu 40 munud yn y car o’r ganolfan.

Gorge Walking With CIWW

Caiff y cit cyfan ei gynnwys ym mhris y gweithgaredd, a rhoddir popeth i’ch helpu chi i aros yn ddiogel, gan gynnwys siwt wlyb, helmed a chymorth arnofio. Mae’r llwybr wedi’i ddewis gan ein hyfforddwyr profiadol a chaiff y gweithgareddau eu gwneud mewn amgylchedd diogel a reolir.

Yn addas i blant 8 oed a hŷn.

5. Dysgwch Sut i Syrffio, Traeth Rest Bay, Porthcawl

Os ydych wastad wedi bod ag awydd mentro ar y tonnau, yna ewch i’r traeth a dysgu i syrffio gydag Ysgol Syrffio Porthcawl. Ar agor drwy gydol y flwyddyn (heblaw am Ddydd Nadolig!) Mae croeso i bob lefel o brofiad, o ddechreuwyr i’r rhai hynny sy’n bwriadu mireinio eu technegau. Dewiswch o blith un o’r gwersi ar yr amserlen ymlaen llaw neu gofynnwch am wers breifat i’r teulu ymlaen llaw.

Learn To Surf Porthcawl

Mae’r gwersi minimax i blant yn rhoi blas ar bob agwedd ar syrffio gan gynnwys diogelwch ar y môr, llygredd cefnforoedd, balans a ffitrwydd.

Ac os yw’n well gennych chi gael hwyl wrth syrffio, yna gallwch logi byrddau i’r teulu cyfan.

Felly, pam aros? Ewch ati i gynllunio antur nesaf eich teulu a llenwi gwyliau’r haf gyda llwyth o atgofion!