Yn unol â chanllawiau presennol Llywodraeth Cymru rydym wedi cau dros dro. Os ydych wedi trefnu archeb gyda ni yn y dyfodol agos byddwn yn cysylltu â chi i wneud trefniadau amgen. Mae ein talebau yn dal i fod ar gael ar-lein https://www.dgrhc.com/talebau-anrheg/ ac yn ddilys am gyfnod estynedig. Mae modd cysylltu â ni yn ystod oriau swyddfa o Ddydd Llun i Ddydd Gwener ar info@ciww.com. Byddwn yn cyhoeddi’r wybodaeth ddiweddaraf ar ein cyfryngau cymdeithasol @cardiffintww
Ar ôl tyfu mewn poblogrwydd ym myd chwaraeon dŵr, mae Padlfyrddio wrth Sefyll yn ffordd wych o fwynhau’r dŵr gwastad a chael sesiwn ymarfer corff lawn yr un pryd. Gan gyfuno syrffio a chanŵio / caiacio, mae’n cynnwys sefyll ar fwrdd mawr a defnyddio padl yn arddull canŵ i symud drwy’r dŵr. Mae’n ddelfrydol ar gyfer grwpiau (isafswm o 4 person).
Yr hyn sy’n wych am y gweithgaredd hwn, yw ei fod yn addasol ac yn gallu newid i fodloni eich hwyl a’ch profiad. Gallwch wneud cymaint neu gyn lleied o ymdrech ag y dymunwch!
Cyflwyniad i Badlfyrddio wrth Sefyll
Bydd eich cwrs sylfaenol i’r cwrs Padlfyrddio wrth Sefyll yn dysgu popeth sydd ei angen arnoch i gychwyn arni.
Sesiwn flasu dwyawr o hyd, bob dydd Sul rhwng 10.00 - 12.00 a 13.00 - 15.00, am £20.00 y person.
Padlfyrddio wrth Sefyll i ferched yn unig
Rydym yn croesawu merched o bob lefel a gallu i ddod i fwynhau rhywfaint o amser ar y dŵr. Mae’r Cwrs Padlfyrddio i ferched yn unig, sy’n para 4 wythnos, yn digwydd bob nos Fercher rhwng 18.00 a 20.00 am £60.00 y person.
Felly, peidiwch â cholli allan – dewch i roi cynnig ar un o’r chwaraeon dŵr sy’n tyfu gyflymaf mewn poblogrwydd yn y byd! Mae’n ffordd wych o fentro i’r awyr agored, gwella eich ffitrwydd, cwrdd â ffrindiau newydd a gweld Caerdydd o safbwynt gwbl newydd.
Mae Padlfyrddio wrth Sefyll hefyd yn weithgaredd perffaith ar gyfer partïon i’r dynion a phartïon cywennod. Cyflenwir gwisg a chyfarwyddyd ac mae bob sesiwn yn addas i bobl ifanc 12 oed a hŷn (ar sail y cyntaf i’r felin).