Mae ein sesiynau cerdded ceunentydd De Cymru yn weithgaredd oddi ar y safle cyffrous yng Nghwm Nedd golygfaol sy’n cynnwys camu i fyny ac i lawr llwybrau afonydd a nentydd. Rydym yn cychwyn yn ysgafn gan addysgu’r holl dechnegau sydd eu hangen arnoch i fanteisio i’r eithaf ar y gweithgaredd. Ymhen dim, byddwch yn llywio ceunentydd dyfnion ac yn neidio i blymbyllau.
Mae cerdded ceunentydd yn weithgaredd grŵp poblogaidd ar gyfer penwythnosau Parti i’r Dynion a Pharti Cywennod yng Nghaerdydd, gan gynnig cyfle gwych i wneud ymarfer corff heriol a chyffrous. Mae’n berffaith ar gyfer gweithgareddau grŵp ysgol a choleg yn ogystal â diwrnodau adeiladau tîm corfforaethol.
Gan ddibynnu ar faint eich grŵp, gallwn hyd yn oed drefnu cludiant o DGRhC – cysylltwch â ni am fanylion.