ARCHEBU DRWY’R BOTWM ‘ARCHEBU NAWR
Ffoniwch ni i Archebu
029 2082 9970
E-bost
Dod o hyd i ni
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, Ffordd Watkiss, Bae Caerdydd, CF11 0SY

Croeso i fyd padlfyrddio

P'un a ydych yn athletwr brwd neu'n hoffi antur yn achlysurol, byddwch wedi clywed am y gamp ddŵr gynyddol boblogaidd Padlfyrddio. Mae'r talfyriad SUP yn Saesneg yn golygu ‘Stand Up Paddleboarding’ neu sefyll ar badlfwrdd - cyfuniad o syrffio a chanŵio / caiacio sy'n golygu sefyll ar fwrdd mawr a defnyddio padl tebyg i un canŵ i symud drwy'r dŵr.

Mae gwersi padlfyrddio yn boblogaidd oherwydd eu bod yn addas i grwpiau, yn ogystal â'r ffaith eu bod yn cynnig ffordd wych o fwynhau'r dŵr gwastad a chael ymarfer corff llawn ar yr un pryd. Mae Padlfyrddio yn ffordd hygyrch, hwyliog a chymdeithasol o fwynhau dyfroedd morol neu fewndirol.  Gall bron pawb ei wneud, waeth beth fo’ch oedran neu lefel sgil neu ffitrwydd. 

Ein cyrsiau padlfyrddio yng Nghaerdydd yw un o'r llefydd gorau i wneud hynny yng Nghymru. O fewn ychydig oriau yn unig, byddwch wedi meistroli'r pethau sylfaenol ac mae ein hystod lawn o gyrsiau yn darparu ar gyfer pob gallu. Y peth gorau am y gweithgaredd hwn yw fod modd ei addasu i  weddu i'ch hwyliau a'ch profiad. Gallwch wneud cymaint neu gyn lleied o ymdrech ag y mynnwch!

Fel camp dŵr sy’n boblogaidd iawn ledled y byd mae Padlfyrddio bellach yn cydio yn y DU hefyd, gan arwain at gynnydd ym mhoblogrwydd gwersi padlfyrddio yn Ne Cymru. Darllenwch ymlaen i gael gwybod pa wersi padlfyrddio sydd gan Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd i'w cynnig.


Sesiynau blasu Padlfyrddio

Dysgwch sut i Badlfyrddio gyda'n Sesiwn Flasu Padlfyrddio . Yn ystod y sesiwn 2 awr bydd ein hyfforddwyr yn dysgu'r holl gynghorion sydd angen arnoch chi i ddechrau padlfyrddio, gan gynnwys sut i baratoi ar gyfer padlfyrddio, sut i fynd ar badlfwrdd, ymarferion cydbwyso ar gyfer padlfyrddio, ac wrth gwrs sut i fynd yn ôl ar badlfwrdd ar ôl syrthio. Mae hyn yn addas ar gyfer plant 12+oed ac mae'n £35 y pen. 

Padlfyrddio i ferched yn unig

Ein cwrs Padlfyrddio i Fenywod yn Unig yw'r cyfle perffaith i roi cynnig ar y gamp ddŵr sy'n tyfu gyflymaf yn y byd heb deimlo'n hunanymwybodol. Rydym yn cynnig gwersi Padlfyrddio pwrpasol i fenywod a fydd yn eich rhoi ar y dŵr ac yn padlo ar hyd dyfroedd hardd Cymru mewn dim o dro. 

Mae croeso i ferched o bob lefel a gallu ymuno â'n cwrs Padlfyrddio i fenywod a mwynhau amser ar y dŵr. Mae’r rhaglen badlfyrddio i fenywod yn unig yn ymestyn dros bedair wythnos, gyda sesiynau dwy awr yn cael eu cynnal bob wythnos. Rydym yn cynnig yr holl offer hyfforddi a phadlfyrddio ar gyfer y cwrs. 4 nos Fercher yn olynol am £110 y person. 

Ioga Padlfyrddio

Dim amser na'r gyllideb i fynd ar encil ioga padlfyrddio? Ymunwch â ni am un o'n dosbarthiadau ioga padlfyrddio yn lle hynny! Gan gyfuno holl uchafbwyntiau gwyliau ioga a phadlfyrddio mewn sesiynau ioga padlfyrddio byr naw deg munud, bydd ioga padlfyrddio DGRhC yn eich cyflwyno i'r padlfyrddau ac yn eich tywys drwy ddilyniant ioga padlfyrddio o ystumiau ioga padlfyrddio.  Pwy fyddai’n meddwl y byddai ioga dŵr mor hygyrch!

SUP Social

Unwaith y byddwch wedi cwblhau un o’n sesiynau padlfyrddio - beth am ystyried ymuno ag un o'n Sesiynau Cymdeithasol SUP drwy’r opsiwn 'Parcio a Chwarae' !

 

Gwybodaeth Allweddol
Pris
O £35 y pen
Oedran
Rhaid i gyfranogwyr fod yn 12 oed neu'n hŷn.
Offer
Darperir yr holl hyfforddiant ac offer arbenigol