ARCHEBU DRWY’R BOTWM ‘ARCHEBU NAWR
Ffoniwch ni i Archebu
029 2082 9970
E-bost
Dod o hyd i ni
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, Ffordd Watkiss, Bae Caerdydd, CF11 0SY

Efallai bod yr haf yn dod i ben, ond dydy hynny ddim yn golygu bod rhaid i'r hwyl ddod i ben, yn enwedig o ran cael hwyl y tu allan.

Felly gwisgwch mewn un o'n gwisgoedd gwlyb, a dewch i drochi yn y dŵr gydag un o'n gweithgareddau dŵr gwyn niferus sy'n cynnig amser cofiadwy drwy gydol y gaeaf.

Lleoliad pob tywydd

Does dim ots sut mae’r tywydd! Mae ein drysau bob amser ar agor (ac eithrio gwyntoedd cryfion iawn), a chyn belled â'u bod ar agor, mae croeso i chi bob amser. Rydyn ni'n gwybod pa mor siomedig yw hi pan fydd glaw yn stopio chwarae, ond rydyn ni'n meddwl bod ychydig o dywydd gwlyb ond yn ychwanegu at eich antur, ac yn gwneud y profiad cyfan yn fwy iachus! 

Eisiau blino eich plant?

Gyda hanner tymor mis Hydref yn nesáu, mae'n bryd dechrau cynllunio eich amserlen wythnos o hyd i ddiddanu'r plant. Mae ein hwythnos gweithgareddau i blant bob amser yn ddewis poblogaidd i rieni sy'n gweithio, gan ein bod yn cynnwys bron pob gweithgaredd a gynigiwn mewn wythnos gyffrous o antur. Os ydych chi am archebu rhywbeth arbennig, neu wneud rhywbeth gwahanol, edrychwch ar ein hamrywiaeth o weithgareddau i weld pa weithgareddau sy'n addas i wahanol oedrannau. Mae Antur Awyr yn ddewis gwych i blant (a phlant mawr) nad ydynt yn hoffi’r dŵr!

Dathlu

Os oes gennych ddathliadau ar eich meddwl, yna does dim lle gwell i’ch gwesteion fwynhau awyrgylch parti nag yn ystod profiad dŵr gwyn bythgofiadwy. O bartïon bwch a hwch, i ddathliadau pen-blwydd mawr, rydym yn darparu ar gyfer pob oedran ac nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol i gymryd rhan yn unrhyw un o'n gweithgareddau. Ond mae angen i chi allu nofio. Mae llawer o'n gweithgareddau ar gael mewn fformat ysgafnach, sy'n addas i blant (o 6 oed), plant bach hŷn a'r arddegau hefyd, sy'n golygu bod eich rhestr gwesteion yn ddiddiwedd.

Ac mae gwybod na fydd eich parti yn cael ei ganslo oherwydd y glaw, yn rhoi tawelwch meddwl i chi pan ddaw'n fater o drefnu digwyddiad ar yr adeg hon o'r flwyddyn. 

Ail-daniwch ysbryd eich tîm

Ar ôl cael cyfnod o wneud popeth o ran gwaith mewn modd rhithwir, beth am roi lefel ychwanegol o gyffro i'ch sesiwn adeiladu tîm nesaf ar ein cwrs dŵr gwyn, neu brofiad rhaffau uchel Antur Awyr? Mae DGRhC nid yn unig yn cynnig newid lleoliad i bawb, ond hefyd awyr iach y môr a digonedd o adrenalin.

Felly beth sy'n eich atal?! 

Edrychwch ar ein hamrywiaeth eang o weithgareddau ac archebwch eich sesiwn ar-lein heddiw.