ARCHEBU DRWY’R BOTWM ‘ARCHEBU NAWR
Ffoniwch ni i Archebu
029 2082 9970
E-bost
Dod o hyd i ni
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, Ffordd Watkiss, Bae Caerdydd, CF11 0SY

Mae’r Ŵyl Badlo 2022 yn ôl yn DGRhC, Bae Caerdydd ar 30 Ebrill!

Dewch i ni edrych ymlaen at Ŵyl y Banc gwlyb a gwyllt ar ddechrau mis Mai pan fydd yr Ŵyl Badlo yn dychwelyd i ddathlu bod 10 mlynedd wedi mynd heibio ers agor y ganolfan. Dyma’r digwyddiad teuluol gorau posibl i’r rheiny sy’n hoffi’r dŵr, ychydig o antur, byrgyr, neu ddawnsio yn yr haul. Bydd ein pympiau yn defnyddio amrywiaeth o lifoedd drwy gydol y dydd, fel y gallwch fwynhau ystod o weithgareddau sy'n addas i blant 6 oed a hŷn.

Paddlefest 2022 

Bwyd a Diod drwy'r Dydd

Gyda choffi ffres i ddechrau eich diwrnod o’r eiliad y bydd y drysau ar agor, bydd stondinau bwyd yn gweini brecwast, byrgyrs, pizza, bwydydd Tex Mex a  Charibïaidd drwy'r dydd. Mae ein balconi yn cynnig golygfa wych o’n cwrs dŵr gwyn neu dewch â phicnic a blanced gyda chi a bachu eich lle ar y glaswellt i wylio'r antur drwy'r dydd.

DJ drwy'r Dydd

Yn darparu’r gerddoriaeth i sbarduno’r antur fydd Red Bull DJ a fydd yn creu awyrgylch berffaith ar gyfer y penwythnos. 

Stondinau Masnachu

Rydym wedi sefydlu partneriaeth gyda rhai o frandiau mwyaf blaenllaw dŵr gwyn i ddod â phentyrrau o gynhyrchion ac arddangosiadau gwych i chi a fydd ar gael ar y diwrnod yn unig. Bydd gan bob stondin fasnach dimau o weithwyr proffesiynol o’r diwydiant wrth law i gynnig cyngor a gwybodaeth addas, yn ogystal ag ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych - felly dewch draw, porwch drwy’r stondinau a chael ambell i sgwrs.

Caiacio Parcio a Chwarae

Yn arbennig ar gyfer yr Ŵyl Badlo byddwn yn rhyddhau pob un o’r lefelau dŵr gwyn drwy gydol y dydd, gan ddechrau gyda 4 a 6 ciwmecs ar gyfer sesiynau'r bore gan symud i 8 ciwmecs ar gyfer sesiwn y prynhawn. Byddwn yn gorffen gyda’r rodeo freestyle a'r advanced boater ar 10 ciwmecs.

Sesiwn Parcio a Chwarae Arbennig

Ynghyd â disgownt ar barcio a chwarae, rydym hefyd yn cynnig sesiynau CAIACIO yn unig, PAN NA FYDD UNRHYW RAFFTIAU ar rannau o’r cwrs yn ystod y dydd.

Padlo am y tro cyntaf?

Mae gennym ddigon o gyfleoedd i chi gymryd rhan, o Sesiynau blasu Rafftio Dŵr Gwyn i Badlfyrddio i ddechreuwyr, a Chaiacio. Ddim awydd gwlychu? Beth am herio'ch hun i roi cynnig ar ein HANTUR AWYR sy'n mynd â chi ar ras wyllt uwchben yr holl badlwyr islaw! Rhaid ARCHEBU YMLAEN LLAW drwy ddefnyddio’r botwm ARCHEBWCH NAWR ar ein gwefan ciww.com

Cystadlaethau a Rasys

Boater x - Ducky Derby - Tubing Turmoil - Rodeo Showdown 

Bydd modd cofrestru ar gyfer pob ras am 10 y bore bob diwrnod ar gyfer rasys a chystadlaethau ar gyfer pob gallu ac am y tro cyntaf erioed byddwn yn cynnal yr holl gystadlaethau hyn ar giwmeciau 4/6 i ddechreuwyr a lefel canolradd yn ogystal ag 8/10 ar gyfer y cynghreiriau uwch hefyd! Ddim yn siŵr beth yw natur pob cystadleuaeth? Ewch i'r stondin gofrestru a byddwn yn rhoi’r holl wybodaeth i chi. Gall gwylio fod yr un mor wych â chystadlu!

 

Dydd Sul 1 Mai - RAS PADLFYRDDIO PRYDAIN

Mae Tymor Cenedlaethol Rasys Padlfyrddio dros Bellter 2022 yn ôl. Mae gan y digwyddiad epig hwn 2 ras, y ras Elît 10KM a'r Her ras 6km (cap amser 4 Awr) - mae rhywbeth at ddant pawb. 

I gofrestru, ewch i gbsup.co.uk 

 

Dydd Llun 2 Mai - PREMIER a SLALOM Canŵio i Ddechreuwyr

Dewch i wylio rhai o'r caiacwyr gorau yn y DU a thîm perfformio Cymru yn brwydro i ddod yn Bencampwr Slalom Bae Caerdydd 2022. Awydd rhoi cynnig ar slalom canŵ am y tro cyntaf? Mae Canŵ Cymru yn cynnal ras slalom canŵ i ddechreuwyr ar y llyn gyda hyfforddiant ac offer llawn ar gael ynghyd â’r cyfle i gymryd rhan mewn ras. Ar gyfer y ras i ddechreuwyr ewch i'r babell gofrestru fore Llun. 

 

Parcio

Mae cyfleusterau parcio am ddim ar gael mewn maes parcio mawr wrth ymyl DGRhC. Gellir dod o hyd i gyfleusterau parcio ychwanegol y tu ôl i'r llawr sglefrio a'r pwll nofio.

Felly, beth am wneud penwythnos ohoni?

Dim ond 25 munud o'r syrffio, dewch gyda’ch plant a'ch cit a gwnewch benwythnos gŵyl y banc ohoni! Gyda digon o lefydd i aros wrth ymyl Caerdydd, dewch i adnabod yr arfordir tra byddwch yn aros ym mhrydferthwch De Cymru! 

Paddlefest Weekend Plan