ARCHEBU DRWY’R BOTWM ‘ARCHEBU NAWR
Ffoniwch ni i Archebu
029 2082 9970
E-bost
Dod o hyd i ni
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, Ffordd Watkiss, Bae Caerdydd, CF11 0SY

CYRSIAU CAIACIO   


Sesiwn Flasu Caiacio / Canŵio i’r Teulu 

Am roi cynnig ar weithgaredd newydd? Mae ein Sesiynau Caiacio/Canŵio i'r Teulu yn wych i rieni a phlant ddysgu gyda'i gilydd. Mae ein pwll dŵr llonydd yn amgylchedd hwyliog a diogel i ddeall hanfodion Caiacio. 6oed+ cliciwch yma am fwy o wybodaeth, neu i wirio argaeledd neu archebu!  


Cyflwyniad i Gaiacio (Oedolion) 

Os nad ydych erioed wedi bod mewn caiac o'r blaen ac eisiau rhoi cynnig arni cyn ymrwymo i gwrs hirach, mae ein cwrs  Cyflwyniad i Gaiacio (Oedolion) yn berffaith i chi. Bydd ein hyfforddwyr profiadol yn dechrau gyda'r hanfodion ac yn rhoi eich profiad cyntaf i chi ar eich hobi newydd. Bydd y sesiwn hon yn helpu i roi syniad i chi o gaiacio ac yn rhoi'r wefr honno i chi ymgymryd â'n cwrs O Anobaith i Feistrolaeth 18oed+ cliciwch yma am fwy o wybodaeth, neu i wirio argaeledd neu archebu!  

 

O Anobaith i Feistrolaeth 

Gyda'r opsiynau Ieuenctid (ganol wythnos a penwythnos) a Oedolion (ganol wythnos a penwythnos), mae'r cwrs cyflym hwn yn canolbwyntio ar un peth... datblygu sgiliau caiacio yn gyflym! Gan ddechrau gydag adeiladu sylfeini cadarn ar ein pwll dŵr llonydd, byddwch chi neu'ch person ifanc yn symud ymlaen yn gyflym i'r dŵr gwyn lle byddwch yn ennill y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i'ch rhoi ar ben ffordd yn eich hobi newydd. Cwrs Ieuenctid - ar gyfer 10-17 oed, Cwrs oedolion ar gyfer 18oed+ Edrychwch ar yr adran 'Caiacio' y botwm ARCHEBU NAWR i wirio argaeledd neu i archebu. 

 

Hwb Hyder Dŵr Gwyn  

Gyda'r opsiynau Ieuenctidac Oedolion, mae ein Hwb Hyder Dŵr Gwyn wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer caiacwyr newydd neu unrhyw gaiacwyr sydd eisiau ychydig o hwb i’w hyder. Mae hwn yn ychwanegiad perffaith i'r cwrs O Anobaith i Feistrolaeth, boed hynny cyn, yn ystod neu ar ôl y cwrs hwnnw! Yn y sesiwn hon, a gymerir gan un o'n hyfforddwyr profiadol, byddwn yn ymdrin â phynciau gan gynnwys hunan-achub sylfaenol, nofio dŵr gwyn diogel a phadlo personol diogel. Y cyfan yn dod ynghyd i’ch helpu chi i deimlo'n fwy cyfforddus yn y dŵr ac ar y dŵr. Mae'r cwrs hwn yn defnyddio ein caiacau chwyddadwy neu 'Hotdogs' ar y cwrs Dŵr Gwyn Cwrs Ieuenctid - ar gyfer 10-17 oed, Cwrs oedolion ar gyfer 18oed+ Edrychwch ar yr adran 'Caiacio' y botwm ARCHEBU NAWR i wirio argaeledd neu i archebu. 

 

Arwr i Ddŵr Gwyn (WW) Pro  

Gyda'r opsiynau Ieuenctidac Oedolion, y dilyniant rhesymegol nesaf yn dilyn ein cwrs O Anobaith i Feistrolaeth. Ar ôl O Anobaith i Feistrolaeth, mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio er mwyn helpu i fireinio'ch sgiliau ar y dŵr gwyn er mwyn helpu i roi'r hyder i chi a gwybod sut i badlo ar ein sesiynau Parcio a Chwarae neu eich dŵr gwyn lleol gyda'ch cyd-gaiacwyr. Gan fynd dros yr hanfodion sylfaenol, bydd y cwrs hwn yn eich helpu i gymhwyso'r wybodaeth a'r sgiliau sydd gennych eisoes i ddod yn fedrus mewn amgylchedd dŵr gwyn deinamig yn ogystal â chyflwyno rhai sgiliau mwy datblygedig. Cwrs Ieuenctid - ar gyfer 10-17 oed, Cwrs oedolion ar gyfer 18oed+ Edrychwch ar yr adran 'Caiacio' y botwm ARCHEBU NAWR i wirio argaeledd neu i archebu. 

Gwybodaeth Allweddol
Cyrsiau
Cyrsiau Dŵr Llonydd a Dŵr Gwyn ar Gael
Pris
O £12 y pen
OEDRAN LLEIAF
O 6+ oed
Offer
Darperir yr holl hyfforddiant ac offer arbenigol