ARCHEBU DRWY’R BOTWM ‘ARCHEBU NAWR
Ffoniwch ni i Archebu
029 2082 9970
E-bost
Dod o hyd i ni
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, Ffordd Watkiss, Bae Caerdydd, CF11 0SY

Er bod arfordir deheuol Cymru yn drwch gyda nifer o ddinasoedd mawr, nid oes rhaid i chi deithio ymhell tua’r gogledd i gyrraedd cefn gwlad hyfryd, ac mae tair afon o fewn awr mewn car o’r brifddinas, sy'n cynnig cyfleoedd padlo ysblennydd i ddechreuwyr a phadlwyr canolradd. 

Afon Wysg

Gan ymdroelli drwy Aberhonddu a’r tu hwnt, mae afon Wysg yn cynnig man trawiadol i badlo yn y wlad. Gyda nifer o rannau sy’n addas i badlwyr o unrhyw allu, bydd rhan i chi boed bod gennych gaiac, canŵ ynteu badl-fwrdd. 

Mae'r rhannau uchaf yn cynnig dŵr gwyn cyflym cyffrous i'r rhai sy'n chwilio am gyffro, ac mae rhai o'r rhannau is yn cynnig cyflymder mwy hamddenol.  Mae cytundebau mynediad yn gysylltiedig ag afon Wysg, felly edrychwch ar-lein i weld pryd bydd yr amser gorau i fynd i’r dŵr! 

Afon Tawe

O'r gweundiroedd i'r cefnfor, mae'r afon hon yn un arbennig! Nid nepell o Gastell-nedd, mae hon yn afon aml-weddog sy'n ymlwybro drwy ddyffryn bach. Mae'r cyffro'n dechrau ar y gweundiroedd gyda llithrau serth a dyfroedd gwyllt, mae'r rhan hon ynghyd â'r geunant isod a'r darn canol ar gyfer padlwyr profiadol yn unig, gyda nifer o rannau geirw heriol sy'n gwneud yr afon hon yn ffefryn go iawn. 

Mae rhannau isaf afon Tawe yn cynnig profiad llawer mwy hamddenol i badlwyr ac yn y pen draw daw’n afon lanw wrth iddi gyrraedd ei haber a’r môr. 

Afon Gwy

Dechreuodd fy angerdd dros chwaraeon padlo yn afon Gwy, ac felly y bu i lawer o bobl eraill hefyd.  Yn tarddu yng nghanolbarth Cymru, mae afon Gwy yn teithio ar draws Cymru i Loegr cyn llifo'n ôl i Gymru i ymuno ag afon Hafren.  

Mae rhywbeth i bawb yn yr afon hir hon hefyd. Mae'r rhannau uchaf sy'n llifo drwy Raeadr Gwy yn boblogaidd gyda’r rhai sy’n chwilio am gyffro gan fod yno lawer o ddyfroedd gwyllt cyffrous i badlwyr profiadol. O’r fan hon mae'r afon yn dawel ar y cyfan gydag ambell eithriad ar hyd y ffordd, mae’r darnau mwyaf poblogaidd rhwng y Gelli Gandryll a Threfynwy. Mae'r golygfeydd yn syfrdanol, yn mynd drwy dir fferm godidog, bryniau braf a phentrefi a threfi glan afon. Yn gaiacwyr; yn badlfyrddwyr neu’n ganŵ-wyr, mae rhywbeth yn afon Gwy i chi i gyd!

Mae pob afon yn wahanol felly cofiwch wneud eich gwaith ymchwil cyn mynd allan ar unrhyw antur, gan sicrhau bod y tywydd yn iawn a bod gennych yr wybodaeth a'r offer i fwynhau'r dŵr yn ddiogel. 

Heb wneud hyn o'r blaen? Gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn am gyfarwyddyd gan weithwyr proffesiynol, er mwyn cael y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i fforio ein hafonydd anhygoel. Mae gennym nifer o gyrsiau ar gael ar gyfer pob disgyblaeth a phob gallu, ewch draw i www.ciww.com i ddysgu mwy!