ARCHEBU DRWY’R BOTWM ‘ARCHEBU NAWR
Ffoniwch ni i Archebu
029 2082 9970
E-bost
Dod o hyd i ni
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, Ffordd Watkiss, Bae Caerdydd, CF11 0SY

Mae Padlfyrddio, neu SUP i roi’r enw cyffredin arno, yn parhau i fod yn boblogaidd iawn fel ffordd hwyliog o ymarfer corff, a modd unigryw o fynd i chwilota yn yr awyr agored.  Darllenwch ymlaen i ddysgu sut i roi cynnig ar fyd rhyfeddol Padlfyrddio, a sut i wella yn y gamp.  

Sut i Badlfyrddio 

Rydych chi wedi clywed sôn amdano, efallai eich bod hyd yn oed wedi dod ar draws erthyglau yn canu clodydd y gamp neu luniau o SUPers selog yn cael amser a hanner ar eu byrddau padlo. Ond dydych chi dal ddim yn hollol siŵr beth yn union yw SUP, sut mae'n gweithio ac ai dyma'r gamp iawn i chi. Fel arbenigwyr lleol ar y mater, rydym wedi mynd ati ein hunain i ateb eich cwestiynau cyffredin am sut i Badlfyrddio.  

Beth yw Padlfyrddio? 

Mae’r obsesiwn rhyngwladol diweddaraf ym myd chwaraeon dŵr, Padlfyrddio, yn gyfuniad o syrffio a chanŵio/caiacio sy’n golygu sefyll ar fwrdd mawr a symud drwy’r dwr gan ddefnyddio rhwyf tebyg i un canŵ.   

YDY PADLFYRDDIO YN YMARFER CORFF DA? 

Mae’r cwrs llawn gweithgaredd yn gyfuniad o ymarfer corff i’r cyhyrau i gyd ynghyd â phrofiad o fod ar ddŵr llonydd hyfryd.  Mae padlfyrddio yn ddewis ymarfer corff gwych os ydych chi'n edrych i gryfhau eich craidd, coesau a chorff uchaf, i gyd yn yr un sesiwn dwysedd isel, gwefreiddiol. 

Faint o galorïau ydych chi’n eu llosgi wrth Badlfyrddio? 

Mae Padlfyrddio yn ymarfer corff amlochrog iawn – gallwch ei addasu yn ôl eich hwyliau a’ch arbenigedd, yn amrywio o arnofio’n dawel i rwyfo’n nerthol.  Er y gall mynd ar fwrdd padlo fod yn hobi eithaf hamddenol, gall gwthio eich hun yn ystod sesiwn Padlfyrddio chwalu calorïau, gan losgi dros 300 o galorïau mewn un awr yn unig. [1] 

Beth dylech ei wisgo wrth Badlfyrddio? 

Yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw a pha adeg o'r flwyddyn rydych chi'n cael eich sesiynau SUP, efallai y bydd angen i chi gael gwisg padlfyrddio. Waeth beth fo’r tywydd, bydd angen dillad gwrth-ddŵr arnoch. Mae lleoliadau cynhesach yn caniatáu ar gyfer gwisgoedd ysgafnach fel offer ymarfer gwrth-ddŵr, gardiau llawes byr a siwt nofio.2  

Ond os yw’n oerach efallai y bydd angen i chi wisgo siwt wlyb neu gôt thermol a haen uchaf gwrth-ddŵr. Wedi dweud hynny, bydd awr o weithgarwch corfforol dwys yn eich cadw'n weddol gynnes hyd yn oed yn y gaeaf, felly gwnewch yn siŵr i beidio â gwisgo gormod o haenau.3  

Yn Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd (DGRhC) mae gennym yr holl hyfforddwyr a’r offer arbenigol sydd eu hangen ar gyfer Padlfyrddio, felly’r cyfan sydd ei angen yw’ch ysbryd anturus! 

PA GWRS PADLFYRDDIO SYDD ORAU I MI? 

Rhowch gynnig arni gyda sesiwn flasu Padlfyrddio! Yn DGRhC, mae gennym ystod o wersi SUP a fydd yn mynd â chi i’r dŵr ac yn rhoi syniad i chi o ba mor galed yw gwneud Padlfyrddio  

Drwy gydol y flwyddyn, rydym yn rhedeg Sesiynau i Ddechreuwyr Padlboard sy’n para dwyawr, a fydd yn eich dysgu am y pethau sylfaenol, gan gynnwys sut i badlfyrddio, sut i droi'r bwrdd a'r padl ymlaen, yn ogystal â mesurau diogelwch hanfodol. 

Ble gallwch chi fynd i Badlfyrddio? 

Os ydych chi wedi darllen y cwestiynau cyffredin ac yn meddwl tybed lle gallwch chi fynd i badlfyrddio, rydych chi wedi dod i'r lle iawn. Yn ogystal â'n Sesiynau Blasu Padlfyrddio, rydym hefyd yn cynnig Sesiynau Blasu Padlfyrddio i'r teulu sy'n berffaith ar gyfer cael eich teulu wedi gwirioni ar SUP neu brofi'r antur am y tro cyntaf gyda'ch gilydd.  

Byddai'n well gennych chi ddod at eich gilydd gyda ffrindiau? Mae gwersi SUP ar gyfer grwpiau, partïon stag a phartis plua diwrnodau adeiladu tîm, yn ogystal ag ystod o sesiynau SUP arbenigol, gan gynnwys: 

Padlfyrddio i Ferched yn Unig 

Os ydych eisoes yn dwlu ar Badlfyrddio, neu wedi padlo o’r blaen, mae rhagor o ddewisiadau ar gael.  Bob nos Fercher, rydym yn cynnal Sesiynau i Ferched yn Unig, pan fydd grŵp bach dan hyfforddiant arbenigol yn datblygu sgiliau padlfyrddio, ac yn rhoi cynnig ar wneud hynny ar afon brydferth Elái. Byddwch hefyd yn derbyn hyfforddiant ar dechnegau padlo ac ar ddiogelwch, ac yn cael gwybodaeth am sut i badlfyrddio yn lleol ac yn ehangach.  

Dosbarthiadau Padlfyrddio Ioga 

Cyfunwch Badlfyrddio ac ioga yn ein Sesiynau Ioga Padlfyrddio . Yn ystod y dosbarthiadau, bydd ein hyfforddwr ioga, Ceri yn eich cyflwyno i badlfyrddio, yn cynhesu lan gyda chi ac yn esbonio sut y gellir trosglwyddo ioga i’r dŵr! Yng ngweddill y sesiwn byddwch yn symud drwy symudiadau ioga clasurol yn raddol ar eich bwrdd.  Mae’r Dosbarth Ioga Padlfyrddio yn berffaith os ydych eisiau her, am gryfhau ac am ymlacio’ch meddwl yn ogystal â’ch corff.  

Clwb Padlfyrddio; SUP Cymdeithasol Caerdydd 

Os ydych chi'n brofiadol ac eisiau padlfyrddio gyda phobl o'r un anian â chi, rydym yn argymell Padlfyrddio Cymdeithasol Caerdydd. Gallwch ddod â’ch bwrdd eich hun neu logi un gan DGRhC, ynghyd â’r holl offer sydd ei angen.  Cyn ymuno â’r grwp ymlaciedig hwn, bydd raid i chi sicrhau bod gennych ddigon o brofiad, naill ai drwy gwblhau un o’n cyrsiau padlfyrddio ni, neu un yn rhywle arall.  

Padlfyrddio yn ystod yr Wythnos a’r Penwythnos yng Nghaerdydd  

Mae sesiynau padlfyrddio ar gael drwy gydol yr wythnos ac ar y penwythnosau, i’ch cael i arnofio ar hyd y dwr a mwynhau dyfrffyrdd hyfryd Caerdydd yng nghwmni padlfyrddwyr brwdfrydig eraill.  Gallwch gofrestru ar gyfer Gwersi Ategol ar Badlfyrddio, dysgu Mwy o dechnegau Padlfyrddio a hyd yn oed archebu lle ar Dripiau padlfyrddio i ffwrdd.  

Yr hyn sy'n well byth yw, pan gyrhaeddwch y pwynt hwn, y byddwch yn gallu rhentu padlfyrddau ac arbrofi, gan ddysgu pa mor hir y dylai padlfwrdd fod a pha faint badlfyrddio sydd ei angen arnoch cyn i chi brynu’ch bwrdd eich hun, ac ennill y profiad sydd ei angen i badlo ar eich pen eich hun. 

Dysgwch fwy am Badlfyrddio


[1] https://theseasonedsurfer.com/calories-burned-paddle-boarding/ 

[2] https://www.islesurfandsup.com/what-to-wear-paddle-boarding/ 

[3] https://redpaddleco.com/en-gb/clothing-sup/