Ymunwch â ni a Woman Kind Yoga am un o’r Sesiynau Ioga SUP arbennig yng Nghanolfan Dŵr Gwyn Ryngwladol Caerdydd.
Yn ystod y sesiynau cewch eich arwain drwy gyflwyniad i’r padlfyrddau, sesiwn ymarfer a chyflwyniad i sut y gellir gwneud ioga ar y dŵr!
Bydd yr Athrawes Yoga Helen Wilson (Womankind Yoga, Beach Yoga Swansea Bay) yn dangos i chi sut i symud yn raddol drwy'r symudiadau yoga clasurol ar eich padlfwrdd mewn dosbarth a fydd yn eich herio, yn eich cryfhau ac yn gwneud i chi ymlacio’n gorfforol ac yn feddyliol.