ARCHEBU DRWY’R BOTWM ‘ARCHEBU NAWR
Ffoniwch ni i Archebu
029 2082 9970
E-bost
Dod o hyd i ni
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, Ffordd Watkiss, Bae Caerdydd, CF11 0SY

Mae pob rhiant yn gwybod sut aiff hi dros wyliau’r haf – wythnosau di-ri o wyliau i’r plant gyda hyn a hyn o weithgareddau i’w diddanu. Yma yn DGRhC rydym yn cynnig cyrsiau o rai undydd i wythnos weithio lawn, sy’n berffaith i gadw’r plant yn brysur dros yr haf.

Dyma rai o’n hoff syniadau y bydd eich plant wrth eu bodd â nhw:

Canfod a Chrwydro: Taith mis i gamp newydd

Mae ein cyrsiau Cyflwyno Pŵer Padlo a Pŵer Padlo i’r Profiadol  yn cyflwyno’ch plant i hanfodion chwaraeon padlo dros bedair wythnos. Drwy basio nifer o gerrig milltir a chael gwobrwyon ar y ffordd caiff plant eu grymuso a’u diddori, gyda sesiynau caiac yn helpu’r rhai bach i ddatblygu eu sgiliau gwneud penderfyniadau drwy oresgyn heriau cyffrous.

Mae’r sesiynau Cyflwyno yn berffaith i blant dibrofiad gyda’r rhai i’r mwy Profiadol wedi’u teilwra i’r sawl sydd wedi rhoi tro arni o’r blaen.

Ysgol Syrffio: Cyflwyniad wythnos i syrffio

Gweithgaredd DGRhC poblogaidd arall i blant dros wyliau’r haf yw ein rhaglen 5 diwrnod Ysgol Syrffio i Bobl Ifanc. Dyma gyfle da i’ch plant gael blas ar syrffio am y tro cyntaf neu wella eu sgiliau syrffio. Rhennir y cwrs rhwng y Don Dan Do yn DGRhC ar ein peiriant syrffio (Llun i Iau) a gwers syrffio yn y môr ar draeth Porthcawl (Gwener).

Nid oes angen profiad blaenorol, ond mae angen i’ch plant fod o leiaf 107cm o daldra i gorff-fyrddio.

Ysgol Badlo: Cyfuniad dŵr llonydd a dŵr gwyn pum diwrnod

I blant sydd wrth eu bodd â dŵr ond sydd braidd yn ddi-hyder, mae gennym Ysgol Badlo i Bobl Ifanc.  Dros bum diwrnod, caiff eich plant gyfle i roi tro ar ystod o gyrsiau Canŵ a Chaiac ar y dŵr llonydd a hyd yn oed symud i’r dŵr gwyn os ydyn nhw’n teimlo’n fentrus.

Methu dewis? Dewiswch Wythnos Amlweithgareddau

Ydych chi’n meddwl y bydd eich plant yn mwynhau gweithgareddau DGRhC? Newyddion da! Does angen i chi ddewis gyda’n Wythnos Amlweithgareddau! Yn cyfuno pob math o gyrsiau, gan gynnwys Rafftio Dŵr Gwyn, Canŵio, Caiacio a Phadlfyrddio, mae ein Wythnos Amlweithgareddau yn gyfle perffaith i gyflwyno’ch plant i bob math o chwaraeon dŵr.

Meistroli’r Môr gyda SUPKids

I’r rhieni sy’n chwilio i gyfuno anturiaethau haf eu plant ag ychydig o ddysgu rhyngweithiol, cânt y gorau o ddau fyd gyda SUPKids. Gan fynd ag addysg amgylcheddol allan o’r dosbarth ac i fyd natur, mae’r rhaglen yn cyflwyno plant i Badlfyrddio, diogelwch yn y dŵr a’r syniad o ofalu am y blaned.

Caiff pob plentyn a ddaw lyfr gwaith SUPKids arbennig a sticeri. Does angen profiad blaenorol o Badlfyrddio.

Padlfyrddio ar y Lefel Nesaf Sesiynau untro

Os yw’r plant eisoes wedi cwblhau un o gyrsiau Padlfyrddio DGRhC ac yn awyddus i wella’u sgiliau, ein sesiynau Gwella Sgiliau Padlfyrddio dwyawr yw’r dewis perffaith dros yr haf! Yn ystod y sesiwn byddant yn dysgu mwy am offer Padlfyrddio, technegau, padlo mewn tywydd gwael a hyfforddi i rasio neu grwydro.

Dyma ddewis gwych i wella sgiliau a hyder padlo unrhyw un dros 12 oed sydd wedi cwblhau sesiwn flasu Padlfyrddio.

Rhywbeth i’r rhieni: Sesiynau Ioga Padlfyrddio

Os taw chi fu’n gyfrifol am edrych ar ôl y plant, siawns na fuoch chi yn y gampfa neu’n ymlacio’n ddiweddar. Beth am gymryd eiliad (neu awr a hanner) i fwynhau un o’n Sesiynau Ioga Padlfyrddio? Gan symud drwy’r safleoedd ioga clasurol ar y bwrdd, byddwch yn cryfhau’ch corff ac yn tawelu’r meddwl, gan sicrhau eich bod yn barod i gael y plant yn ôl!

Haf o bob Math - cadwch le i'ch plant ar gwrs DGRhC!