ARCHEBU DRWY’R BOTWM ‘ARCHEBU NAWR
Ffoniwch ni i Archebu
029 2082 9970
E-bost
Dod o hyd i ni
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, Ffordd Watkiss, Bae Caerdydd, CF11 0SY
Ffoniwch ni i drefnu
Dod o Hyd i Ni
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, Ffordd Watkiss, Bae Caerdydd, CF11 0SY
Amserau Agor
DGRhC
Llinellau ffôn ar agor bob dydd 09:00 - 16:00
029 2082 9970

Ni allwn ddarparu ar gyfer archebion cerdded i mewn
Rhaid archebu'r holl weithgareddau (gan gynnwys Parcio a Chwarae) ymlaen llaw drwy'r botwm BOOK NOW isod

Caffi
-
NID OES GENNYM GAFFI AR Y SAFLE MWYACH

-
.

CYSYLLTWCH HEDDIW
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, hoffem glywed gennych

 

Amseroedd Pwmp
Dylech ddarllen yr amseroedd pwmp a hysbysebwyd gennym cyn dod i’r Ganolfan. Gall amseroedd pwmp newid ar ddiwrnod y sesiwn.
SUT I GYRRAEDD YMA

TRAFNIDIAETH GYHOEDDUS:  Cymerwch y trên o Gaerdydd Ganolog i’r Barri neu Ben-y-bont ar Ogwr gan adael y trên yng ngorsaf drenau Cogan. Yna cerddwch dros bont Pont y Werin i Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd. Ewch ar fws gwasanaeth 7 neu 9 yng Nghaerdydd. Maent yn teithio’n rheolaidd o ganol y ddinas a Bae Caerdydd. Am amserlenni ewch i www.traveline-cymru.info

MEWN CAR: Dilynwch arwyddion brown Bae Caerdydd a’r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol yr A4232.

Llywiwr Lloeren: CF11 0SY

 

CWESTIYNAU CYFFREDIN
METHU DOD O HYD I’R ATEB GYFERBYN? CYFLWYNWCH EICH HOLIADUR YMA A BYDDWCH YN YMATEB I CHI O FEWN 24 AWR.
Q
Ydych chi’n gohirio gweithgareddau pan fo’r tywydd yn wael?
A

Caiff gweithgareddau eu cynnal boed law neu hindda. Byddwn yn gohirio rhai gweithgareddau os bydd y tywydd yn ddifrifol, er enghraifft, os bu eira neu rew mawr, neu wyntoedd cryfion.

Q
Oes rhaid i mi fod yn nofiwr da?
A

Na, byddwch yn gwisgo cymorth hynofedd (rhag ofn i chi ddisgyn i mewn i’r dŵr). Byddwch yn cael eich sblasio (sy’n ychwanegu at yr hwyl!)

Q
Oes rhaid i mi archebu ymlaen llaw?
A

Oes, mae angen archebu ymlaen llaw ar gyfer ein holl weithgareddau. Gwiriwch argaeledd ac archebwch ar-lein trwy ein botwm "BOOK NOW".

Q
Beth yw'r uchder / oedran isafswm?
A

Mae’r gweithgareddau yn addas ar gyfer plant 6 oed a hŷn. Ar gyfer y Don Dan Do, ni chewch fod yn llai na 107cm o daldra. Ar gyfer yr Antur Awyr, ni chewch fod yn llai na 132cm o daldra (107cm a mwy yng nghwmni oedolyn) ac ni ddylech bwyso mwy ag 18 stôn. Ar gyfer y Wal Ddringo, ni chewch fod yn llai 107cm o daldra.

Q
Beth sydd angen i mi ddod â / gwisgo?
A

Byddwn ni’n darparu'r holl offer sydd ei angen arnoch i gymryd rhan yn eich gweithgaredd gan gynnwys:
- Gwisgoedd gwlyb
- Bŵts gwisgoedd gwlyb
- Cymorth hynofedd
- Helmed

Bydd angen i chi ddod â’r canlynol:
- Dillad nofio i’w gwisgo o dan y siwt wlyb (pan fydd hi’n oer iawn efallai yr hoffech ddod ag eitem o ddillad nad yw wedi’i wneud o gotwm i’w wisgo o dan y siwt wlyb e.e. siaced denau neu fest.
- Tywel
- Darn £1 ar gyfer y locer

Mae gennym ystafelloedd newid, cawodydd a loceri ar y safle (bydd angen darn £1 arnoch) I sicrhau fod eich gweithgaredd yn dechrau’n brydlon, gofalwch eich bod yn cyrraedd 15 munud cyn yr amser dechrau er mwyn cofrestru yn y dderbynfa a chwblhau'r gwaith papur angenrheidiol.

Q
Pa mor bell ydych chi o Ganol Dinas Caerdydd?
A

Rydyn ni yn y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol, sydd ond 10 munud yn y car o ganol y ddinas.