ARCHEBU DRWY’R BOTWM ‘ARCHEBU NAWR
Ffoniwch ni i Archebu
029 2082 9970
E-bost
Dod o hyd i ni
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, Ffordd Watkiss, Bae Caerdydd, CF11 0SY

Ymuno â’r tîm

Mae DGRhC bob amser yn awyddus i gyflogi hyfforddwyr awyr agored profiadol, brwdfrydig ac angerddol.

Rydym yn darparu ystod eang o weithgareddau o sesiynau dŵr gwastad, rafftio dŵr gwyn a hyfforddi chwaraeon padlo, rhaffau uchel, cerdded ceunentydd a sesiynau Ton Dan Do. Mae amrywiaeth o gleientiaid yn cymryd rhan yn ein gweithgareddau, o bartïon plu a stag, grwpiau corfforaethol, partïon plant, pobl sydd angen hyfforddiant perfformiad a chyrsiau ar gyfer gweithwyr proffesiynol awyr agored h.y. Achub 3, Canŵio Prydain, cymorth cyntaf REC a chyrsiau FfRRh.

Cymwysterau dymunol: Hyfforddwr Chwaraeon Padlo, Hyfforddwr Ceufad Dŵr Gwyn, Hyfforddwr SUP, Hyfforddwr neu Achubwr Parc Antur ERCA, Tywysydd Rafft FfRRh a Chanŵio Prydain a SPA.

Rhinweddau yr ydym yn chwilio amdanynt yn ein tîm: Gallu gweithio mewn tîm, bod yn hawdd mynd atynt gyda sgiliau cyfathrebu da, bod â menter, sgiliau cadw amser da ac yn ddibynadwy. Yn ogystal, rydym yn chwilio am bobl sydd ag angerdd dros fod yn yr awyr agored.

Profiad: Cerdded Ceunentydd, Hyfforddi Ton Dan Do, rhaffau uchel, hyfforddi, rafftio. Er bod well gennym brofiad yn y meysydd hyn, rydym yn cynnig hyfforddiant mewnol ar gyfer amrywiaeth o’n gweithgareddau.

Oriau gwaith: Mae'r rhan fwyaf o'n staff yn cael eu cyflogi ar sail llawrydd, mae cyfradd y cyflog yn cael ei phennu gan gymwysterau a ddelir, er enghraifft, tywysydd rafftiau £14/awr*, gwyliwr dŵr (achubwr cwrs dŵr gwyn) £12/awr*. Caiff oriau gwaith eu dosbarthu'n deg rhwng yr holl staff llawrydd gan y tîm gweinyddol, a’n cyfnodau prysuraf yw’r penwythnosau a gwyliau ysgol.

I ddechrau gweithio i ni mae'n rhaid bod gennych rif UTR (hunangyflogedig), fendwr Cyngor Caerdydd, GDG manwl, tystysgrif gyfredol mewn Cymorth Cyntaf ac wedi mynychu sesiwn sefydlu i staff yn y ganolfan.

Manteision gweithio yma: Mynediad i hyfforddiant mewnol am ddim a chymwysterau NGB am bris gostyngedig. Defnydd o’r cyfleusterau ac offer. Anfonwch eich CV at info@ciww.com neu ffoniwch ni ar 029 2082 9970 am fwy o wybodaeth.

*Gallai newid