ARCHEBU DRWY’R BOTWM ‘ARCHEBU NAWR
Ffoniwch ni i Archebu
029 2082 9970
E-bost
Dod o hyd i ni
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, Ffordd Watkiss, Bae Caerdydd, CF11 0SY

Beth yw ‘Parcio a Chwarae’?

Cyn i chi badlo yn CIWW, rhaid i bob padlwr wylio ein fideo diogelwch Parcio a Chwarae yma

'Parcio a Chwarae' yw’r ffordd rydyn ni’n disgrifio sesiynau sydd ar gael i ddefnyddwyr dŵr profiadol sydd â'u hoffer eu hunain*, i ddod draw i ddefnyddio'r cyfleusterau yn DGRhC heb dderbyn cyfarwyddyd gan un o'n Hyfforddwyr. Rydym yn rhoi'r pwyslais ar roi’r sgiliau a'r galluoedd i chi ddefnyddio ein lleoliad o'r radd flaenaf yn ddiogel ar gyfer un o'r sesiynau isod. Ddim yn siŵr a yw Parcio a Chwarae yn iawn i chi?  Ffoniwch ni ar 029 2082 9970 i sgwrsio ag un o'n Hyfforddwyr a fydd yn fwy na pharod i esbonio’r  opsiynau isod i chi. Rhaid archebu pob sesiwn ymlaen llaw ar-lein. Rhaid i bob defnyddiwr dŵr ddeall a chytuno i’r Telerau ac Amodau ar gyfer y rhai hynny nad ydynt yn derbyn hyfforddiant gan DGRhC, sydd ar gael i’w gweld yma o leiaf 72 awr cyn eich sesiwn. Unwaith y byddwch wedi archebu lle, cewch ddolen drwy e-bost i ymwadiad a phecyn cwestiynau ar-lein drwy'r platfform archebu gwe Eola. Os ydych yn archebu lle ar ran eraill, gofynnir i chi roi eu cyfeiriad e-bost nhw fel y gallant gytuno i'n Telerau ac Amodau ar wahân. Os ydych chi'n archebu ar ran rhywun sydd o dan 18 oed (gwiriwch y cyfyngiadau oedran isod), gwnewch yn siŵr eich bod chi'n nodi hyn wrth archebu. Mae hyn oherwydd y bydd angen i riant neu warcheidwad lofnodi'r ymwadiad ar-lein ar eu rhan. Beth am ystyried creu cyfrif Eola fel y gallwch gadw golwg ar eich holl archebion gyda ni?

Parcio a Chwarae Caiacio Dŵr Gwyn

Mae ein Cwrs Dŵr Gwyn Safonol Olympaidd yn cael ei gynnal ar 3 lefel Cumec wahanol, sy'n ddelfrydol ar gyfer Caiacwyr Dŵr Gwyn profiadol sy'n chwilio am Ddŵr Gwyn ar alw! Mae gennym amseroedd pwmp wythnosol ar gael i'w harchebu ar-lein.  Os ydych chi'n newydd i DGRhC ac heb badlo ar ein Dŵr Gwyn o'r blaen, gofynnwn i chi gerdded y Cwrs Dŵr Gwyn cyn padlo, i wneud yn siŵr eich bod yn hyderus yn eich gallu i gymryd rhan. 6oed+

Dydd Mercher - 17:45 - 20:15 4/6 cumec

Dydd Gwener - 18:00 - 20:00 10 cumec (bob yn ail ddydd Gwener o fis Tachwedd i fis Mawrth)

Dydd Sadwrn - Sesiwn 1 09:30 - 12:15 - 8 cumec Sesiwn 2 13:30 - 16:15 - 8 cumec

GAEAF 22/23 - BYDD UN SESIWN PARCIO A CHWARAE AR DDYDD SADWRN 11:30 - 14:15

Dydd Sul - Sesiwn 1 09:30 - 12:15 - 4/6 cumec Sesiwn 2 13:45 - 16:30 - 8 cumec

£12.00 y pen fesul sesiwn

Mynediad i'r Afon

Ewch i Afon Elai hardd saith diwrnod yr wythnos i Ganŵio, Caiacio neu Badlfyrddio wrth Sefyll (gwiriwch amseroedd y sesiwn pan fyddwch yn archebu). Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch unrhyw Hysbysiad i Forwyr cyn padlo. 6oed+

£8 y person ar gyfer Mynediad i Afonydd

SUP Social

Mae Sesiynau Cymdeithasol SUP Social yn ffordd wych o ymuno â Phadlfyrddwyr eraill mewn sesiwn grŵp i fwynhau’r cyfle i gwrdd a phadlo â phobl debyg i chi a rhannu profiadau! Mae Sesiynau Cymdeithasol SUP ar gael i oedolion sydd wedi cymryd rhan mewn sesiwn Padlfyrddio wrth Sefyll yn DGRhC, neu sydd â phrofiad blaenorol – gan gynnwys cyrsiau a sesiynau rhagflas. Mae llogi bwrdd ar gael am ffi ychwanegol - bydd angen i chi gael eich siwt wlyb eich hun a'ch cymorth arnofio eich hun. Ar gyfer 18oed+

£8 y person ar gyfer Mynediad i’r Afon

£14 y person ar gyfer Llogi Bwrdd/Padl + Mynediad i'r Afon

Nofio Dŵr Agored

Mae Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd yn lleoliad Nofio Dŵr Agored gwych, gyda dŵr ffres a glân.  Mae'r lap nofio dros 100 metr, yn ddelfrydol ar gyfer nofwyr dŵr agored newydd a thriathletwyr profiadol.  Mae dau dro bwi hefyd yn caniatáu i nofwyr ymarfer gweld a throi. Mae'r lleoliad wedi'i achredu gan SHOUT a Nofio Cymru, ac mae sesiynau'n cael eu goruchwylio gan staff diogelwch cymwysedig DGRhC.

Mae tymheredd y dŵr yn amrywio drwy gydol y tymor.  Nid ydym yn mynnu eich bod yn gwisgo siwtiau gwlyb ond os byddwch yn nofio heb un sicrhewch eich bod wedi arfer â dŵr oer a'ch bod yn gallu nofio mewn dŵr dwfn agored. Ar gyfer 18oed+

Mae hyfforddiant ar gael drwy gysylltu â - http://whittlefit.com/

£6 y pen

*Yn unol â'n Telerau ac Amodau, rhaid i'ch offer fod yn addas ar gyfer y gweithgaredd rydych yn ymgymryd ag ef. Mae DGRhC yn cadw'r hawl i wrthod mynediad i chi i'n cyfleuster os nad yw eich offer yn addas i'r diben. Mae offer Padlfyrddio wrth Sefyll ar gael i'w logi fel rhan o'n sesiynau cymdeithasol yn unig.