ARCHEBU DRWY’R BOTWM ‘ARCHEBU NAWR
Ffoniwch ni i Archebu
029 2082 9970
E-bost
Dod o hyd i ni
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, Ffordd Watkiss, Bae Caerdydd, CF11 0SY

Ymarfer a meistroli

Flat Water Activities List
Sesiynau Blas ar Badlo i Deuluoedd

Am roi cynnig ar weithgaredd newydd? Mae ein Sesiynau Blasu 2 awr o hyd yn wych i rieni a phlant ddysgu gyda’i gilydd. Mae ein pwll dwr gwastad yn sbort ac yn lle diogel i ddysgu sgiliau Canwio, Caiacio a Phadl-fyrddio sylfaenol. 

Ieuenctid Sero i Arwr

Oes gennych berson ifanc sy'n awyddus i herio’r tonnau? Mae'r cwrs cyflym hwn yn canolbwyntio ar un peth, datblygu sgiliau caiacio yn gyflym. Gan ddechrau gydag adeiladu sylfeini cryf ar ddŵr gwastad, bydd eich syrffiwr ifanc yn symud ymlaen yn gyflym i'r dŵr gwyn lle bydd yn ennill gwybodaeth a sgiliau helaeth gan ein hyfforddwyr profiadol ac angerddol. Y cwrs hwn yw'r cam gorau i'w gymryd os hoffai eich person ifanc gymryd rhan yn ein rhaglen Academi Plant. 

Oedolyn Sero i Arwr

Cwrs cyflym gydag un nod, i ddatblygu eich sgiliau caiacio yn gyflym, waeth beth yw eich profiad.  Gan ddechrau drwy adeiladu sgiliau sylfaenol cryf ar y dŵr gwastad, byddwn yn eich symud ymlaen yn gyflym i'n dŵr garw gwyn cyffrous. Bydd ein hyfforddwyr hynod brofiadol a brwdfrydig yn rhoi'r wybodaeth a'r adborth i chi er mwyn gwella eich  caiacio! 

Gwersyll Amlbadl - Afon Wysg

 

Sefydlwyd yr 'Academi Plant' yn 2011, er mwyn helpu i uwchsgilio ac annog caiacwyr dŵr gwyn y dyfodol. Ni allem fod wedi'i ddweud yn well na'n prif noddwr, Palm Equipment "Nod Academi Plant Caerdydd yw ysbrydoli a gwthio'r genhedlaeth newydd o badlwyr ymlaen, gan gynnig... y cyfle i fynd o fod yn ddechreuwr pur i fod yn arwr dŵr gwyn". 

Rydym yn cynnig tripiau o hyd amrywiol, ar gyfer ystod o alluoedd. Rydym wedi creu ffeithlun er mwyn eich helpu i sicrhau eich bod yn yn cadw lle ar drip o’r hyd cywir ac ar gyfer y gallu cywir. Nid oes rhaid i chi fynd drwy'r broses gyfan gyda ni, rydym yn croesawu wynebau newydd yr un mor gynnes â'r padlwyr sy'n dychwelyd. Rydym wrth ein bodd yn helpu i wthio pawb i ddatblygu a phrofi amgylcheddau newydd gymaint â phosibl ond byddwch yn onest wrth archebu'r tripiau hyn fel y gall y grŵp cyfan ddatblygu fwyaf fel grŵp ac fel unigolion. Os nad ydych yn siŵr a ydych yn archebu'r daith gywir, cysylltwch â ni a gallwn eich helpu i wneud y penderfyniad gorau i chi.

Rydym yn creu ein teithiau o'r cychwyn cyntaf, caiff y dewis o hyfforddwyr, lleoliadau a gwersi hyfforddi oll eu haddasu i'r grŵp a’r amodau er mwyn sicrhau’r dysgu a’r hwyl gorau posibl. Rydym yn derbyn plant a phobl ifanc 10-17 oed sy’n chwilio i fanteisio ar hyfforddiant o’r radd flaenaf, herio eu hunain a chreu ffrindiau ar y dŵr!

Oherwydd natur lefelau dŵr yn y gwledydd hyn caiff afon ei dewis yn yr wythnos cyn y daith, cysylltwn â phawb sydd wedi archebu taith gydag amser cyfarfod a’r afon y byddwn yn padlo ynddi, yn ogystal â gwybodaeth am unrhyw ofynion arbennig o ran cyfarpar sydd ei angen ar gyfer y diwrnod.  Gall amseroedd y daith amrywio yn dibynnu ar leoliad a hyd y daith. Mae llety a chludiant bob amser wedi eu cynnwys, ac mae bwyd yn cael ei gynnwys ar ein teithiau wythnos o hyd*.

*Ein nod yw bwyta mewn bwyty lleol ar ddiwrnod olaf y daith, nid yw byrbrydau ac ychwanegiadau wedi'u cynnwys.