ARCHEBU DRWY’R BOTWM ‘ARCHEBU NAWR
Ffoniwch ni i Archebu
029 2082 9970
E-bost
Dod o hyd i ni
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, Ffordd Watkiss, Bae Caerdydd, CF11 0SY

Yn cyflwyno’r wefr fawr ddiweddaraf ym myd chwaraeon dŵr: afonfyrddio. Yn antur gyffrous a gwefreiddiol i’r rhai mentrus sy’n chwilio am brofiadau mwy heriol, mae afonfyrddio (a elwir hefyd yn hydrowibio) yn eich galluogi i fynd yn nes at y dyfroedd gwylltion gyda’ch corff a bwrdd yn unig. 

Hanfodion afonfyrddio

Fel mae'r enw'n awgrymu, mae afonfyrddio yn galluogi selogion dŵr gwyn i reidio’r dyfroedd gwylltion heb rafft, gan ddefnyddio bwrdd afon yn unig i’w gyrru eu hunain trwy droeon y cwrs.  Dan arweiniad ein hyfforddwyr arbenigol, byddwch yn cyrraedd y dyfroedd gwylltion yn benben, gan rasio i lawr wrth i chi orwedd yn wastad ar eich bwrdd gyda rhan uchaf eich corff yn sownd y tu mewn i’r bwrdd. 

Wrth hydrowibio, byddwch yn defnyddio eich corff eich hun i lywio, gyda chymorth esgyll wedi’u hatodi wrth eich traed sy’n eich helpu i lywio i’r cyfeiriad cywir. Fel arfer, mae cyrsiau afonfyrddio yn cynnwys amrywiaeth o dramwyfeydd a chryn nifer o donnau, felly rydych chi'n sicr o gael profiad llawn cyffro.

Os ydych chi'n meddwl tybed pam fod dau enw gwahanol ar y gamp, peidiwch â phoeni – mae gennym yr atebion! Mae’n dibynnu ar y bwrdd a ddefnyddir i wibio i lawr y dŵr gwyn gwyllt. Gydag afonfyrddio, defnyddir byrddau plastig sydd wedi’u hadeiladu’n benodol at y diben er mwyn rhoi hynofedd ychwanegol.

Ar y llaw arall, daw’r enw hydrowibio o’r bwrdd amgen wedi’i wneud o sbwng a ddefnyddir ar y cyrsiau (a elwir yn fwrdd hydrowibio). Mae reidio dyfroedd gwylltion afon ar fwrdd hydrowibio yn wych os ydych am sicrhau taith fwy meddal a chlustogi effaith unrhyw drawiadau.

Offer hanfodol ar gyfer afonfyrddio

Ar wahân i fwrdd afon (neu fwrdd hydrowibio) ac esgyll, mae offer afonfyrddio hanfodol yn cynnwys siwt wlyb sydd wedi'i chynllunio i'ch cadw'n gynnes yn y dŵr, siaced achub a helmed sy'n eich cadw'n ddiogel rhag y creigiau. Os ydych yn bwriadu hydrowibio yn y gaeaf, ystyriwch wisgo haen ychwanegol o ddillad thermol o dan eich siwt wlyb am ragor o gynhesrwydd.

Rydym hefyd yn argymell gwisgo esgidiau cadarn â chareiau, yn ogystal â dod â thywel a gwisg ymdrochi gyda chi. Ar gyfer y dyfroedd bas, gallech hyd yn oed wisgo padiau pen-glin a phenelin, neu ddewis gardiau crimog a menig hefyd.

Ydy afonfyrddio’n ddiogel?

Mae ein holl gyrsiau'n cael eu cynnal gan ystyried diogelwch ein gwesteion. Rydym yn darparu'r holl offer diogelwch hanfodol ar gyfer pob un o'n sesiynau hydrowibio, ynghyd â chanllawiau ar gyfer sut i'w ddefnyddio. Rydym yn dechrau'r cwrs mewn dyfroedd tawel, lle mae ein hyfforddwyr yn esbonio hanfodion gyrru eich hun trwy'r dyfroedd gwylltion gyda bwrdd ac esgyll.

Hefyd, mae hyder ar y dŵr a’r gallu i nofio’n gryf yn ofynnol i bawb sy'n cymryd rhan. Rydym wedi gosod cyfyngiadau o ran isafswm oedran i sicrhau bod pawb sy'n cymryd rhan yn ein cyrsiau hydrowibio yn gallu nofio'r 25 metr a argymhellir yn rhwydd heb gymorth.

Dysgwch fwy am ein sesiynau afonfyrddio.