ARCHEBU DRWY’R BOTWM ‘ARCHEBU NAWR
Ffoniwch ni i Archebu
029 2082 9970
E-bost
Dod o hyd i ni
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, Ffordd Watkiss, Bae Caerdydd, CF11 0SY

Mae Rafftio Dŵr Gwyn yn eithriadol o boblogaidd bellach yn y byd chwaraeon dŵr gan ei fod yn gyfuniad perffaith o antur ac ymarfer corff. Felly, gan mai rafftio dŵr gwyn sy’n greiddiol i’r hyn rydym yn ei gynnig, rydym yn arbenigwyr mewn popeth sy’n ymwneud â Rafftio Dŵr Gwyn. Yma, rydym yn ateb y cwestiynau mwyaf cyffredin ynghylch y gamp boblogaidd hon ar gyfer y canllaw cynhwysfawr hwn i ddechreuwyr a’r rheini sy’n hen law arni:

Beth yw Rafftio Dŵr Gwyn

Gweithgaredd grŵp yw Rafftio Dŵr Gwyn lle rydych yn gorfod llywio dŵr tawel a dŵr gwyllt mewn cwch gwynt a elwir yn rafft dŵr gwyn. Gall gario rhwng dau ac wyth o bobl ar ei bwrdd, gan ddibynnu ar ei maint. O ran rafftio masnachol, bydd gyda chi arweinydd cymwys yn llywio ac yn rhoi cyfarwyddiadau. Ond, os mai rafftio ar y cyd sy’n mynd â’ch bryd, byddwch yn gweithio mewn tîm ac yn llywio’r dyfroedd gwyllt eich hunan!

A yw Rafftio Dŵr Gwyn yn ddiogel?

Ar y cyfan, mae rafftio yn ddiogel iawn, ond, fel gydag unrhyw gamp anturus, ac yn enwedig rhai mewn lleoliadau naturiol, mae yna rywfaint o risg gan nad oes modd rheoli popeth. Wedi dweud hynny, mae yna nifer o ffyrdd i wneud y gweithgaredd yn fwy diogel a lleihau unrhyw beryglon.

Cyn mynd ati i Rafftio Dŵr Gwyn, fe gewch offer diogelwch gan gynnwys siwt wlyb a helmed i’ch cadw’n gynnes ac yn ddiogel, ynghyd â bwi i’ch cadw ar y dŵr os disgynnwch o’r rafft.

Hefyd, fe gewch gyfarwyddiadau llawn ar sut i gadw’n ddiogel yn y dŵr, sy’n cynnwys lle a sut i eistedd, sut i ddal eich padl, y cyfarwyddiadau diogelwch y bydd yr arweinydd yn eu galw allan, sut i nofio’n ddiogel os ydych chi’n disgyn o’r rafft, sut i dynnu eraill yn ôl i’r rafft a beth i’w wneud os yw’r rafft yn troi drosodd.  

All pobl sy’n methu nofio roi cynnig ar Rafftio Dŵr Gwyn?

Dyw gallu nofio ddim yn hanfodol ar gyfer Rafftio Dŵr Gwyn. Gan fod siwtiau gwlyb a chymhorthion fel bwi yn eich cadw ar y dŵr, gallwn gynnig y gweithgaredd hwn i’r rheini sy’n gallu nofio a’r rheini na allant. Rydym hefyd yn awgrymu eich bod yn hysbysu eich arweinydd ymlaen llawn os na allwch nofio fel eu bod yn ymwybodol os byddwch eisiau cymorth ychwanegol yn y dŵr.

Pryd dylwn i fynd i rafftio dŵr gwyn?

Gan fod Rafftio Dŵr Gwyn yn boblogaidd ar hyd a lled y byd, gallwch ddod o hyd i gwrs lle bynnag yr ydych. Mewn geiriau eraill, dim ots pa amser o’r flwyddyn yw hi – os ydych chi’n fodlon teithio, byddwch yn gallu rafftio. Wedi’r cyfan, canol y gaeaf yn y DU yw’r amser gorau i rafftio mewn tywydd cynnes yn Seland Newydd!

Hefyd, gall aros yn lleol fod yn her, gan fod afonydd y DU yn ddibynnol ar law ac yn aml, gall rafftio masnachol fod yn sialens gan fod y lefelau’n rhy isel.  Y newyddion da yw bod yna amrywiaeth o gyrsiau artiffisial ledled y wlad, sy’n cynnig rafftio trwy’r flwyddyn, ynghyd â nifer o afonydd sy’n rhyddhau dŵr i argaeau lle mae modd rafftio dŵr gwyn masnachol.

Allwch chi fynd i Rafftio Dŵr Gwyn yn y gaeaf?

Boed law neu hindda, boed hi’n boeth neu’n oer, gallwch fynd i rafftio – dim ond sicrhau bod gennych yr offer cywir ar gyfer y tywydd sy’n rhaid.  Er enghraifft, mewn tywydd oer, mae’n bosibl y bydd angen siwt ddŵr a siaced wrth ddŵr tewach arnoch chi; mewn tywydd poeth, gall olygu wisgo siwtiau gwlyb teneuach neu fyrrach.

Lle alla i fynd i Rafftio Dŵr Gwyn gwyllt?

 Mae nifer o afonydd hardd yng Nghymru ac mae llawer ohonynt yn ddelfrydol ar gyfer rafftio, yn enwedig ym Mannau Brycheiniog. Enghraifft berffaith yw’r afon Wysg – nid yn unig mae’r golygfeydd yn odidog yno ond mae yno ddyfroedd gwyllt sy’n amrywio o radd 1 i 3.

Os ydych chi’n grŵp sy’n hen law ar rafftio ac yn awyddus i hwylio dyfroedd gwyllt sy’n fwy serth a heriol, ewch i afon Tawe ger Cwm Nedd. Lleoliadau naturiol a phoblogaidd eraill ar gyfer rafftio yw afonydd Dyfrdwy a Thryweryn yng Ngogledd Cymru. Ac eithrio Cymru, yr Alban yw’r lleoliad gorau i fynd i rafftio naturiol yn y DU. Er enghraifft, yn ardal Fort William, mae llwyth o afonydd fel Tummel sy’n ddelfrydol ar gyfer rafftio.

Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn defnyddio dilladwr rafftio masnachol, yn enwedig os ydych chi’n newydd i’r gamp, gan fod angen profiad arnoch ar yr afonydd hyn.

Beth sy’n angenrheidiol ar gyfer Rafftio Dŵr Gwyn? Beth ddylwn ni wisgo?

Mae Rafftio yn weithgaredd cynhwysol.  Yn DGRhC, rydym yn cynnig rafftio i bobl mor ifanc â chwech oed, a, chyn belled â’ch bod yn iach, does dim ots beth yw’ch oedran!

Bydd gan bob cwmni rafftio ei ofynion ei hunan felly cofiwch wneud ymholiadau cyn trefnu lle. Yr offer arferol y mae’r rhan fwyaf o gwmnïau’n ei gynnig yw esgidiau, bwi a helmed.  Gall gofynion ychwanegol amrywio, gan ddibynnu gyda phwy rydych yn rafftio - er enghraifft, yn DGRhC, rydym yn gofyn i bawb wisgo siwt wlyb.

Os ydych chi’n ansicr pa offer sydd ei angen arnoch i fynd i rafftio gyda ffrindiau, rydym yn awgrymu eich bod yn cadw lle gyda chwmni rafftio masnachol yn y lle cyntaf, er mwyn magu profiad. Y ffordd orau o sicrhau eich bod yn ddiogel ar yr afonydd yw cael o leiaf un arweinydd masnachol ar y rafft gyda chi a chwblhau hyfforddiant achub dŵr gwyn fel tîm cyn dechrau arni.

Beth ddylwn ni wisgo ar gyfer Rafftio Dŵr Gwyn?

 Yr esgidiau gorau i’w gwisgo ar gyfer Rafftio Dŵr Gwyn yw un ai esgid uchel ‘neoprene’ gyda gwadn trwchus neu esgid/esgid uchel afon bwrpasol.  Weithiau, gellir gwisgo esgidiau hyfforddi ar gyfer Rafftio Dŵr Gwyn, cyn belled â’u bod yn esgid redeg ysgafn neu rywbeth tebyg (osgowch ddeunydd sy’n amsugno dŵr a all fod yn anghyfforddus).

Sut ydw i’n cadw lle ar gyfer Rafftio Dŵr Gwyn?

Os hoffech chi roi cynnig ar Rafftio Dŵr Gwyn, y ffordd hawsaf i gadw lle yw ein ffonio ar 029 2082 9970 neu e-bostio info@ciww.com. Yna, bydd ein tîm yn gwneud y trefniadau i chi! Ceisiwch wneud hyn o leiaf dwy wythnos cyn eich ymweliad.

Yma yn DGRhC, does gennym ni ddim sesiynau galw heibio felly mae’n rhaid i chi gadw lle ymlaen llaw. Gallwch ddewis gweithgaredd hwyliog i deuluoedd sy’n dymuno rafftio gyda’i gilydd.  Hefyd, rydym yn cynnig Rafftio Cyflymder Llawn, sy’n opsiwn poblogaidd ar gyfer penwythnosau ceirw a phenwythnosau ieir a grwpiau corfforaethol.

Dosbarthiadau Rafftio Dŵr Gwyn

Mae gennym wahanol lefelau o ddŵr felly gallwn wneud y dŵr yn fwy llonydd os bydd angen. Mae’r 4-6 cumec* yn ddelfrydol i blant 6-12 oed, teuluoedd a grwpiau ysgol; mae 8-10 cumec ychydig yn fwy cyffrous – yn ddelfrydol i oedolion, penwythnosau ceirw a phenwythnosau ieir, digwyddiadau corfforaethol ac i’r rheini sy’n 12 oed neu hŷn.

* Cumec yw tunnell o ddŵr a ollyngir fesul eiliad.

Pam ddylwn i fynd i Rafftio Dŵr Gwyn yn DGRhC?

Mae gan DGRhC rhywbeth at ddant pawb! Gydag amrywiaeth o lefelau dŵr ar gyfer rafftio a thîm o arweinwyr rafftio profiadol, gallwn warantu y cewch brofiad bythgofiadwy.

 Mae ein cwrs Rafftio Dŵr Gwyn yn cynnwys nifer o raeadrau mawr a nodweddion cyffrous eraill, fydd heb os yn eich cadw’n effro, tra bydd ein tîm diogelwch cymwys yn cadw llygad barcud arnoch ac yn barod i’ch tynnu o’r dŵr os ewch chi allan o’r rafft.

Boed chi’n ddechreuwr neu’n hen law arni, DGRhC yw un o’r lleoedd gorau a mwyaf diogel i fynd i!