ARCHEBU DRWY’R BOTWM ‘ARCHEBU NAWR
Ffoniwch ni i Archebu
029 2082 9970
E-bost
Dod o hyd i ni
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, Ffordd Watkiss, Bae Caerdydd, CF11 0SY

Pryd oedd y tro diwethaf i chi roi cynnig ar rywbeth gwahanol?

Bydd llawer ohonom wedi gwneud addunedau wrth i’r flwyddyn newydd wawrio. Os un o’ch rhai chi oedd rhoi cynnig ar rywbeth newydd neu dreulio mwy o amser gyda’r teulu a ffrindiau, mae’n bosib bod gan Ganolfan Dŵr Gwyn Ryngwladol Caerdydd y cynnig perffaith i chi. Peidiwch â gadael i’r llwch ddechrau ffurfio ar eich addunedau – cewch afael yn eich anwyliaid ac ewch i CDGRC am eu cynnig Hwyl ar y Sul.

Mae’r cynnig anhygoel hwn, a gynhelir bob dydd Sul tan 25 Mawrth, yn rhoi’r cyfle i chi roi cynnig ar DDAU o weithgareddau gwych CDGRC am bris arbennig. Felly trowch eich dydd Sul diog yn antur llawn adrenalin yng Nghanolfan Dŵr Gwyn Ryngwladol Caerdydd (CDGRC).

Mae’r pecyn Hwyl ar y Sul yn eich galluogi i roi cynnig ar y Don Dan Do a’r Antur Awyr am bris arbennig, sef £35 am oedolyn a £25 am blentyn. Does dim terfyn ar nifer y bobl y gallwch ddod â nhw, felly dewch â’r holl deulu neu grŵp o ffrindiau ynghyd ac ewch i’r ganolfan.

Mae’r Don Dan Do yn galluogi pawb - o ddechreuwyr pur i’r rhai sydd fwyaf brwd dros chwaraeon dŵr - i brofi peiriant dan do cyffrous FlowRider®! Mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn cael hwyl wefreiddiol wrth reidio’r jetiau dŵr ar fwrdd corff, sy’n rhoi’r cyfle iddynt fwynhau’r tonnau trwy gydol y flwyddyn.

Nesaf, ewch ar antur gyffrous oddi fry gyda’r Antur Awyr. Wynebwch uchderau dur a phren â rhwystrau difyr gan gynnwys Pont Byrma, y Siglen Fwnci, Cropian Mewn Casgen a’r Weiren Wib, sy’n uchel uwchben y cwrs dŵr gwyn.

Nid oes angen offer na phrofiad arnoch, dim ond yr awydd am antur a chael hwyl! Ffoniwch CDGRC ar 029 2082 9970 i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sydd ar gael ac i gadw lle, ac ewch i www.ciww.com i gael mwy o fanylion. Rhaid cadw’r pecyn a’i ddefnyddio erbyn dydd Sul 25 Mawrth 2018.