Mae Padlfyrddio ar eich Sefyll (SUP) yn un o’r chwaraeon dŵr sy’n tyfu gyflymaf yn y byd. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae wedi dod yn enfawr yn UDA ac Awstralia ac mae’n fwyfwy poblogaidd yma hefyd.
Mae SUP yn ffordd hawdd, hwyl a chymdeithasol o fwynhau dyfroedd morol neu fewndirol. Gall bron pawb ei wneud, waeth beth fo’i oedran neu lefel sgil neu ffitrwydd.
O fewn ychydig oriau byddwch wedi meistroli’r sylfeini gyda’n hystod lawn o gyrsiau’n darparu i bawb o bob oedran.