Os ydych yn awyddus i hyfforddi caiacio dŵr gwyn ar ddŵr cyflym, mae’r hyfforddiant deuddydd hwn yn canolbwyntio ar ddysgu’r sgiliau technegol a thactegol sydd eu hangen ar gaiacwyr dŵr gwyn ar ddŵr cyflym. Bydd y cwrs ymarferol hwn ar y cyfan yn eich helpu i gynllunio a chynnig sesiynau diogel a hwyliog sy’n galluogi’r dysgwyr i wneud cynnydd, a byddwch yn archwilio agweddau penodol i’ch helpu i hyfforddi rhai dysgwyr nodweddiadol sy’n berthnasol i chi a’r amgylchedd o ddŵr cyflym.
Er mwyn dod yn Hyfforddwr Caiac Dŵr Gwyn (Dŵr Cyflym), rhaid i chi gwblhau asesiad undydd, sy’n ymarferol ar y cyfan, yn llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys asesiad o’ch sgiliau hyfforddiant ymarferol a sgiliau diogelwch ac achub; gyda thrafodaeth a chwestiynu proffesiynol ar ben hynny.
Hyfforddiant:
Yr Asesiad:
Tystiolaeth o’r safonau isafswm sydd eu hangen:
Hyfforddiant: 2 ddiwrnod (09:00 - 17:00)
Asesiad: 1 diwrnod (09:00 - 17:00)
Hyfforddiant: £200 y pen
Asesiad: £150 y pen