ARCHEBU DRWY’R BOTWM ‘ARCHEBU NAWR
Ffoniwch ni i Archebu
029 2082 9970
E-bost
Dod o hyd i ni
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, Ffordd Watkiss, Bae Caerdydd, CF11 0SY

Hyfforddwr Chwaraeon Padlo

Os ydych am fod yn Hyfforddwr Chwaraeon Padlo, bydd y cwrs deuddydd hwn sy’n cyfuno hyfforddiant ac asesiad yn eich cynorthwyo i gynnal gemau a gweithgareddau, i gefnogi dysgu, ysgogi antur a chyflwyno padlwyr newydd i’r grefft o badlo’n sefydlog. Ar y cwrs ymarferol hwn, byddwch yn dysgu sgiliau fel cael y grŵp wedi’u gwisgo’n iawn a’u cael i arnofio, gweithgareddau ymgyfarwyddo a sut i ddefnyddio teithiau byrion i gefnogi dysgu.  Mae’r cymhwyster hwn ar agor i bawb! 

Gofynion Cyn Y Cwrs

  • Hyfforddiant Diogelwch ac Achub Sylfaenol
  • 14 oed neu hŷn
  • Ffurflen Gofrestru Hyfforddwr (CH) un o Genhedloedd Prydain
  • Aelodaeth Genedlaethol

Hyd Y Cwrs

2 diwrnod, (09:00 - 17:00)

Pris

£200 y pen 

Gwybodaeth Allweddol
RHESWM DROS DDEWIS DGRHC?
Mae gennym gyfleuster gwych ar y safle, gyda mynediad hawdd at afonydd ar gyfer ein cyrsiau i gyd. Dim offer/dillad gennych neu am roi cynnig ar ddillad/offer newydd ar yr afon? Mae gennym beth o’r dillad/offer diweddaraf ar y farchnad i chi gael rhoi cynnig arnynt.
NID YW’R DYDDIADAU YMA’N GWEITHIO I CHI?
Gallwn gynnig cyrsiau pwrpasol i gyfateb â’ch amserlen a’ch lleoliad. (Efallai y bydd angen isafswm rhifau).