Os ydych am arwain caiacwyr dŵr gwyn ar deithiau afon o safon uwch, mae’r hyfforddiant deuddydd hwn yn canolbwyntio ar y lefel uchel o sgiliau personol, crebwyll ac arweinyddiaeth sydd eu hangen mewn sefyllfaoedd mwy heriol. Mae’r cwrs yn cynnwys sgiliau padlo personol, sgiliau achub, diogelwch, arweinyddiaeth a sgiliau grŵp ynghyd â’r theori.
Er mwyn dod yn Arweinydd Caiacio Dŵr Gwyn Uwch, rhaid i chi gwblhau’n llwyddiannus asesiad dau ddiwrnod, ymarferol ar y cyfan, ar rannau o ddŵr gwyn, sy’n cynnwys teithiau addas ar afonydd. Rhaid i Arweinyddion Caiacio Dŵr Gwyn Uwch gael y lefel o sgiliau personol, y gallu arweinyddol a’r crebwyll i arwain padlwyr gydag ystod o brofiad, hyd at, ac yn cynnwys safon dŵr gwyn uwch.
Hyfforddiant:
Asesiad:
Hyd Y Cwrs
Hyfforddiant: 2 ddiwrnod (09:00 - 17:00)
Asesiad: 2 ddiwrnod (09:00 - 17:00)
Hyfforddiant: £180 y pen
Asesiad: £180 y pen