ARCHEBU DRWY’R BOTWM ‘ARCHEBU NAWR
Ffoniwch ni i Archebu
029 2082 9970
E-bost
Dod o hyd i ni
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, Ffordd Watkiss, Bae Caerdydd, CF11 0SY

Ni fu fawr o agweddau cadarnhaol ar eleni, ond gyda’r Nadolig yn brysur agosáu, mae’r holl ffocws yn troi ar sut y gallwn ddiweddu’r flwyddyn ar uchafbwynt! Os ydych chi’n cael trafferth meddwl am syniadau gwreiddiol am anrhegion i’ch anwyliaid, dyma dri rheswm sy’n gwneud Tocynnau Rhodd DGRhC yr anrhegion Nadolig gorau i’ch teulu a’ch ffrindiau. 

Ffarweliwch â’r felan ddiflastod

CIWW Cardiff Christmas Gift Vouchers 2020

Nid 2020 fu’r flwyddyn orau ar gyfer mynd allan a mwynhau ein hunain! Gyda phlant wedi treulio mwy o amser dan do o flaen eu sgriniau, yn dweud ac yn dweud eu bod nhw wedi diflasu! Eleni roedd ganddyn nhw bwynt! Mae atyniadau awyr agored lleol fel DGRhC yn ffordd wych o gael y plant allan drwy gydol y flwyddyn. Nid oes llawer i blant a phobl ifanc ei wneud ar hyn o bryd, felly mae gadael iddynt brofi gwefr Rafftio Teuluol, uchelfannau gwefreiddiol yr Antur Awyr neu rywbeth o’n harlwy o weithgareddau newydd sydd ar gael, yn ffordd berffaith o ychwanegu talp mawr o hwyl i unrhyw benwythnos.   Hefyd mae’n sicr o fod yn anrheg nad oeddent yn ei disgwyl. 


Di-blastig ac yn gyfeillgar i’r blaned

CIWW Cardiff Christmas Gift Vouchers 2020

Gyda llawer ohonom yn ceisio lleihau ein hôl troed carbon, faint o blastig a nwyddau yn gyffredinol rydyn ni’n eu defnyddio, mae tocyn rhodd DGRhC yn ticio’r holl flychau. Anghofiwch y Nadolig ffantastig plastig, ac eitemau sydd wedi’u gor-hysbysebu a dim ond yn dal y sylw am bum munud. Mae tocyn rhodd gweithgareddau DGRhC yn ddi-blastig ac yn llawn atgofion sy’n siŵr o greu argraff barhaol. 


Rhywbeth bach i edrych ymlaen ato

CIWW Cardiff Christmas Gift Vouchers 2020

Mae treulio amser gydag anwyliaid yn rhywbeth rydym i gyd wedi bod yn dyheu amdano, a chyda lleoedd cyfyngedig ar gael i wneud hyn, mae DGRhC yn cynnig y cyfle i gymryd rhan mewn gweithgaredd awyr agored gyda’ch gilydd, byw yn foment a chreu atgofion newydd. Caiff anrheg ei dad-lapio mewn eiliad, ond mae amser gwerthfawr gyda ffrindiau a’r teulu yn para am oes.  Mae pob tocyn rhodd DGRhC yn ddilys am 18 mis, felly mae digon o amser i drefnu eich profiad. 

Felly, os ydych yn chwilio am rywbeth a fydd yn plesio pawb, edrychwch ar yr ystod o docynnau rhodd sydd ar gael yn DGRhC a chael gwared ar weddill eich rhestr anrhegion yn syth.