ARCHEBU DRWY’R BOTWM ‘ARCHEBU NAWR
Ffoniwch ni i Archebu
029 2082 9970
E-bost
Dod o hyd i ni
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, Ffordd Watkiss, Bae Caerdydd, CF11 0SY

Mae plant y dyddiau hyn yn dwlu ar gemau fideo – os ydych chi’n rhiant, mae’n debyg eich bod chi wedi cael profiad uniongyrchol o hyn! Felly beth sy’n gwneud rhith-fydoedd y gemau hyn mor ddeniadol i bobl ifanc? Mae’n ymwneud ag ymuno â chwaraewyr eraill i ymladd yn erbyn bwystfilod a goresgyn heriau. Heb sôn am y cyffro o sefyllfaoedd eithafol a grym gwaith tîm.

Er bod pob agwedd ar gemau’n swnio’n wych, dewch i ni fod yn onest, maent fel arfer yn golygu llawer o amser ar y soffa. Dylai rhieni sydd ar dân eisiau cael eu plant i ffwrdd o’r cyfrifiaduron ddod â nhw i gael antur a chymryd rhan mewn cyrsiau llawn hwyl a sbri DGRhC:

Ymladd yn erbyn y dŵr gwyn

Mae’r cwrs dŵr gwyn yn berffaith ar gyfer y rhai ifanc sy’n dwlu ar gyffro. Gall eich plant brofi eu sgiliau padlo drwy weithio gyda’i gilydd a gwneud eu gorau glas i drechu’r tonnau. Yn dibynnu ar eu hyfedredd, bydd cwrs addas yn cael ei ddewis gyda’r lefel dŵr gwyn a chyflymder priodol. Ac, yn debyg iawn i gemau fideo, y mwy o brofiad y maen nhw’n ei gael, y gorau byddan nhw ar gyrsiau eithafol!

Gallwch droi hyn yn ddiwrnod allan i’r teulu a mynd â’ch plant iau ar ddŵr gwyn arafach ac is, lle gallwch fynd â’r rafft drwy’r dŵr gwyn ar gyflymder hamddenol. Yn y cyfamser, efallai y bydd anturiaethwyr hŷn yn mwynhau ymuno â ffrindiau a thaclo her y dŵr gwyn fel grŵp difraw.

Syrffiwch y Don (Dan Do)

Mae ein Ton Dan Do, FlowRider®, yn cynnig antur dŵr amgen i anturiaethwyr egnïol. Yn cyfuno’r gorau o ddau fyd, bydd technoleg DGRhC yn dod ag anturiaethau’n fyw mewn amgylchedd dan reolaeth i ffwrdd o’r traeth.

Yn ystod ein sesiynau Ton Dan Do llawn hwyl, gall anturiaethwyr ifanc ddysgu i reidio tonnau go iawn a pherffeithio eu symudiadau ochr-i-ochr gyda ffrindiau neu frodyr a chwiorydd. Does dim angen profiad blaenorol, ond mae synnwyr o hwyl a phenderfyniad yn hanfodol.

Cwblhau’r antur awyr

Ewch ag antur nesaf eich plant i’r awyr gyda’n cwrs Antur Awyr. I gwblhau’r antur, bydd angen i’r rhai ifanc symud drwy gwrs rhaffau uchel gyda rhwystrau dur a phren, megis y Bont Burma, Siglen Mwnci, Cropian Mewn Casgen a’r Weiren Wib. Y cwbl mae angen i’ch plant wneud i fynd ar y cwrs uwchben y dŵr gwyn yw ysbryd anturus a chwant am hwyl!

Chwaraeon dŵr maes chwarae

Mae ein cyrsiau padlo i blant yn rhoi cynnig i bobl ifanc rhwng 8 ac 16 oed i ddod i arfer â dulliau syrffio, canŵio a chaiacio ar ddŵr fflat cyn symud ymlaen i’r dŵr gwyn. Drwy sefyll ar fwrdd mawr, bydd plant yn symud drwy’r dŵr gan ddefnyddio padl canŵio.

Y peth gorau am Badlfyrddio yw y gall plant bennu pa mor anodd ydyw eu hunain i siwtio eu tymer a’u profiad, gan roi cymaint o ymdrech ag y mynnent. Mae ein cyrsiau padlo wedi’u dylunio ar gyfer mwy nag un person, ac maent fwyaf o hwyl wrth chwarae mewn Criw, lle bydd y plant yn padlo mewn tîm o bedwar.

Dringo’r waliau

Mae’r wal ddringo yn ffordd ffantastig arall o roi blas i’ch plant o anturiaethau bywyd go iawn heb risgiau. Bydd yr her o ddringo’r wal a gweithio eu ffordd i’r top yn ddigon i gyffroi eich plant mewn ffordd na all unrhyw frwydr rithiol! Yn fwy na hynny, pan fyddant wedi cyrraedd y top byddant yn falch iawn ac yn barod am gacen yn ein Caffi bar.

Dewch ag antur yn fyw gyda'n gweithgareddau sy'n addas i blant