ARCHEBU DRWY’R BOTWM ‘ARCHEBU NAWR
Ffoniwch ni i Archebu
029 2082 9970
E-bost
Dod o hyd i ni
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, Ffordd Watkiss, Bae Caerdydd, CF11 0SY


Oes angen ysbrydoliaeth arnoch ynglŷn â sut i ddiddanu eich plant yr haf hwn? Mae gan Ganolfan Dŵr Gwyn Ryngwladol Caerdydd (DGRhC) ystod o weithgareddau i’r teulu a fydd yn helpu i greu atgofion bythgofiadwy trwy gydol gwyliau’r haf.

Mae DGRhC, a leolir ym Mae Caerdydd ac sydd yng nghanol y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol, yn gwahodd ymwelwyr o bob cwr i brofi ystod o weithgareddau. Mae DGRhC hefyd yn hawdd ei chyrraedd , gan fod digon o leoedd parcio ac mae bysus yn dod yn rheolaidd o Ganol Dinas Caerdydd a Bae Caerdydd.

Dyma ddetholiad o’r gweithgareddau ar gynnig yn DGRhC ac os oes gennych fwy o gwestiynau amdanyn nhw, cysylltwch â ni!

1.  Rafftio i’r teulu - £22.50 - £25.00 y pen

Mae ein gweithgaredd rafftio i'r teulu ar gael trwy gydol gwyliau’r haf ac mae’n addas i’r teulu i gyd. Gall hyd at 6 o bobl fynd i mewn i un rafft a gallwn ostwng lefel a chyflymder y dŵr fel y bydd y dyfroedd yn addas ar gyfer plant. Dyma weithgaredd gwych i’r teulu i gyd gan ei fod yn golygu gwaith tîm a llawer o hwyl! (oedran 6+)

2.  Caiacio i’r teulu - £10.00 y pen

Os hoffech ddysgu sgiliau sylfaenol caiacio a chanŵio rydym yn cynnal sesiynau cyflwyno i badlo trwy gydol gwyliau’r haf. Mae'r sesiwn hon yn addas i rieni a phlant ac mae’n ffordd wych o ddysgu sgil newydd. Cynhelir ein holl sesiynau cyflwyno mewn pwll dŵr llonydd, felly gallwch fod yn dawel eich meddwl y cynhelir y gweithgaredd mewn amgylchedd hwyliog a diogel.

3.  Syrffio dan do - £22.50 - £35.00 y pen

Yn DGRhC mae gennym beiriant syrffio; gallwch reidio’r dŵr ar gorff-fwrdd. Mae dwy lôn hefyd fel y gallwch syrffio ochr yn ochr â’ch plentyn!

4. Antur Awyr - £10.00 y pen

Os oes gwell gan eich plant wneud gweithgareddau allan o'r dŵr byddwn yn argymell ein Hantur Awyr!  Am ddim ond £10 y pen, gallwch chi a’ch plant roi cynnig ar y cwrs Antur Awyr sy’n cynnwys rhaffau uchel, weiren wib, pontydd a siglenni! Yr isafswm taldra ar gyfer y gweithgaredd hwn yw 132cm ond gall y rhai sydd dros 107cm gymryd rhan os ydynt yng nghwmni oedolyn.

5.  ‘Hot dogging’ - £55.00 (oriau brig) a £50.00 (Y tu allan i oriau brig) y pen

Mae 'hot dogging' yn weithgaredd gwych i’r rhai sydd wedi rhoi cynnig ar sesiwn cyflwyno i gaiacio ac am ddysgu mwy! Mae’r gweithgaredd hwn yn cynnwys caiac aer i ddau berson a arweinir gan un o hyfforddwyr DGRhC. Rhaid cael o leiaf 2 berson ar gyfer y gweithgaredd hwn ac uchafswm o 12.

6. Wal Ddringo - £12.50 y pen

Os hoffech roi cynnig ar ein wal ddringo rydym yn cynnig sesiynau 90 munud yn ystod gwyliau’r haf. Gallwn gynnig rhywbeth i ddechreuwyr a dringwyr profiadol, a darperir yr holl hyfforddiant arbenigol ac offer. Mae’r gweithgaredd hwn yn wych i blant a rhieni, felly a ydych chi’n barod i roi cynnig ar yr her?

Os hoffech gadw eich lle ar gyfer unrhyw un o’r gweithgareddau uchod cysylltwch â ni heddiw!