Os ydych am ddatblygu eich sgiliau diogelwch ac achub mewn amgylchedd o ddŵr gwyn cyflym, mae’r cwrs ymarferol deuddydd hwn yn addysgu’r sgiliau diogelwch ac achub syml ac ymarferol y gallwch eu cymhwyso’n briodol i amgylchedd dŵr gwyn cymedrol.
Mae hyn yn cynnwys y strategaeth padlo’n ddiogel, achub nofiwr, a thechnegau cerdded trwy ddŵr bas. Mae’r cwrs yma’n agored i badlwyr dŵr gwyn, mewn naill ai canŵ neu gaiac, gan roi’r cyfle a’r gefnogaeth i chi ddatblygu eich sgiliau diogelwch a ac achub.
Gallwn gynnig cyrsiau pwrpasol i gyfateb i’ch amserlen a’ch lleoliad (efallai y bydd angen isafswm niferoedd).
Mae gennym gyfleuster gwych ar y safle, gyda mynediad hawdd at afonydd ar gyfer ein cyrsiau i gyd. Heb offer/dillad? Neu awydd rhoi cynnig ar ddillad/offer newydd ar yr afon? Mae gennym rai o’r dillad/offer diweddaraf ar y farchnad i chi roi cynnig arnynt.