ARCHEBU DRWY’R BOTWM ‘ARCHEBU NAWR
Ffoniwch ni i Archebu
029 2082 9970
E-bost
Dod o hyd i ni
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, Ffordd Watkiss, Bae Caerdydd, CF11 0SY

Hyfforddiant Canŵ Dŵr Gwyn

Os ydych am hyfforddi canŵio dŵr gwyn ar ddŵr cymedrol, mae’r cwrs hyfforddi deuddydd hwn yn canolbwyntio ar sut mae addysgu sgiliau technegol a thactegol i ganŵ-wyr dŵr gwyn. Bydd y cwrs ymarferol hwn ar y cyfan yn eich helpu i gynllunio a chynnig sesiynau diogel a difyr sy’n galluogi’r dysgwyr i wneud cynnydd, a byddwch yn archwilio agweddau penodol i’ch helpu i hyfforddi dysgwyr nodweddiadol sy’n berthnasol i chi a’r amgylchedd dŵr gwyn.

Er mwyn dod yn Hyfforddwr Canŵ Dŵr Gwyn, rhaid i chi gwblhau asesiad undydd yn llwyddiannus; asesiad ymarferol yw ar y cyfan. Bydd hyn yn cynnwys asesiad o’ch sgiliau hyfforddi ymarferol a sgiliau diogelwch ac achub; a bydd trafodaeth a chwestiynu proffesiynol ar ben hynny.

 

Gofynion Cyn Y Cwrs

Hyfforddiant: 

  • Hyfforddiant Craidd i Hyfforddwyr
  • Arweinydd Canŵ 
  • Aelodaeth Cenhedloedd Prydain   

Asesu:

  • Hyfforddiant Craidd i Hyfforddwyr 
  • Hyfforddiant i’r Hyfforddwyr Canŵio Dŵr Gwyn 
  • Cymhwyster Hyfforddiant eDdysgu
  • Cofrestriad Asesiad

Tystiolaeth o weithrediad safonau gofynnol:

  • Hyfforddiant Cymorth Cyntaf 1 diwrnod dilys
  • Hyfforddiant Diogelu  
  • Aelodaeth Cenhedloedd Prydain
  • 16 oed neu hŷn 


Hyd Y Cwrs

Hyfforddiant: 2 ddiwrnod (09:00 - 17:00)

Asesiad: 1 diwrnod (09:00 - 17:00)

 

Pris

Hyfforddiant: £200 y pen

Asesiad: £150 y pen

Gwybodaeth Allweddol
RHESYMAU DROS DDEWIS DGRHC?
Mae gennym gyfleuster gwych ar y safle, gyda mynediad hawdd at afonydd ar gyfer ein cyrsiau i gyd. Heb offer/dillad? Neu awydd rhoi cynnig ar ddillad/offer newydd ar yr afon? Mae gennym beth o’r dillad/offer diweddaraf ar y farchnad i chi roi cynnig arnynt.
DYDY’R DYDDIADAU YMA DDIM YN GWEITHIO I CHI?
Gallwn gynnig cyrsiau pwrpasol i gyfateb i’ch amserlen a’ch lleoliad. (Efallai y bydd angen isafswm niferoedd).