Mae’r cwrs hwn i gynorthwyo unrhyw un sydd am ennill mwy o wybodaeth am ddisgyblaeth arbenigol Padlfyrddio Wrth Sefyll (SUP).
Mae’r cwrs yn cyflwyno ac yn egluro’r technegau sylfaenol ac yn meithrin dealltwriaeth o SUP. Mae’r cwrs yn gymysgedd o theori a gweithgarwch ymarferol i sicrhau y caiff pawb gyfle i roi cynnig ar bethau.
Deall agweddau ar ddylunio, maint ac addasu offer i fodloni gofynion yr unigolyn.
Esbonio cefndir y gwahanol ddisgyblaethau padlfyrddio a’r technegau penodol sy’n berthnasol i bob un.
Deall y gwahanol fathau o badlfyrddau sydd ar gael, eu nodweddion a’r gwahanol dechnegau i’w defnyddio gyda nhw.
Deall sut i drin padlfwrdd yn effeithlon.