Dyma gymhwyster 2 ddiwrnod (16 awr) yn ymwneud ag Adfywio Cardio-pwlmonaidd a’r hanfodion i gyd ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio neu’n treulio amser yn yr awyr agored. Mae angen y cymhwyster hwn hefyd ar unrhyw un sydd eisiau ennill cymwysterau hyfforddi neu ddod yn arweinydd BCY 4*. Bydd angen i gyfranogwyr ddod â dillad sy’n addas i’r awyr agored.