ARCHEBU DRWY’R BOTWM ‘ARCHEBU NAWR
Ffoniwch ni i Archebu
029 2082 9970
E-bost
Dod o hyd i ni
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, Ffordd Watkiss, Bae Caerdydd, CF11 0SY

Mae'r gweithdy hwn ar gyfer pobl sy'n dymuno dod yn Gaiacwr Diogelwch y Ffederasiwn Rafftio Rhyngwladol (IRF) a gydnabyddir yn fyd-eang fel y safon uchaf. 

Mae Cymhwyster Caiac Diogelwch yr IRF yn 2 ddiwrnod o ddysgu sut i ddarparu diogelwch o'ch caiac yn ystod teithiau rafft.

Bydd y gweithdy yn cwmpasu digon o dasgau hwyliog i'ch helpu i'ch paratoi ar gyfer unrhyw senario ar daith rafft.  Bydd y gweithdy'n cwmpasu'r holl dechnegau argyfwng ac achub yn ogystal â dysgu damcaniaethol, deall hydroleg afonydd, arweinyddiaeth, signalau a briffio diogelwch. 

Gofynion cyn y cwrs 

Hyfforddiant:

  • 16 oed neu hŷn
  • Hyfforddiant Cymorth Cyntaf 16 awr dilys (rhaid iddo gynnwys Adfywio Cardio-pwlmonaidd) 
  • Llyfr log o brofiad  

Asesiad:

  • Llyfr log o brofiad 
  • Hyfforddiant Cymorth Cyntaf 16 awr dilys (rhaid iddo gynnwys Adfywio Cardio-pwlmonaidd) 
  • 18 oed neu’n hŷn

 

Rhesymau dros ddewis DGRhC?

Mae gennym gyfleuster gwych ar y safle, gyda mynediad hawdd at afonydd ar gyfer ein cyrsiau i gyd.   Dim offer/dillad gennych neu eisiau rhoi cynnig ar ddillad/offer newydd ar yr afon? Mae gennym beth o’r dillad/offer diweddaraf ar y farchnad i chi roi cynnig arnynt.

 

Dyddiadau yma ddim yn gweithio i chi?

Gallwn gynnig cyrsiau pwrpasol i gyfateb i’ch amserlen a’ch lleoliad. (Efallai y bydd angen isafswm niferoedd).

*Ddim yn cynnwys ffi’r Ffederasiwn Rafftio Rhyngwladol ar gyfer ardystio Tywyswyr USD$40, Arweinwyr Teithiau USD$70, Hyfforddwyr USD$130.

Mae’r holl ddyfarniadau gan y Ffederasiwn Rafftio Rhyngwladol yn ddilys am dair blynedd pan gânt eu cefnogi gan dystysgrif cymorth cyntaf ddilys.

Gwybodaeth Allweddol
HYD Y CWRS
2 ddiwrnod, (09:00 - 17:00)
PRIS (HYFFORDDIANT)
£180 Y PEN
PRIS (ASESIAD)
Yn rhan o’r gweithdy (os yw’n pethau gofynnol yn eu lle) ac ar gael ar gais