Mae'r gweithdy hwn ar gyfer pobl sy'n dymuno dod yn Hyfforddwr Ffederasiwn Rafftio Rhyngwladol (IRF) a gydnabyddir yn fyd-eang fel y safon uchaf. Gall Hyfforddwyr IRF gyflwyno Rhaglen Hyfforddiant ac Addysg Tywyswyr (GTE), asesu tywyswyr ac arweinwyr teithiau.
Bydd yr asesydd yn eich tywys drwy'r broses o redeg y rhaglen addysg tywyswyr. Yn ystod y gweithdy byddwch yn cymryd rhan mewn asesiad tywysydd ac arweinydd teithiau. Felly bydd gennych ddealltwriaeth dda o’r lefel sydd ei hangen i basio asesiad.
Ar ôl cwblhau'r gweithdy'n llwyddiannus byddwch yn hyfforddwr dros dro. I gael eich cymeradwyo’n llawn fel hyfforddwr, rhaid i chi gael eich arsylwi/cynorthwyo gan asesydd wrth gynnal gweithdy.
Hyfforddiant:
Asesu:
Mae gennym gyfleuster gwych ar y safle, gyda mynediad hawdd at afonydd ar gyfer ein cyrsiau i gyd. Dim offer/dillad gennych neu eisiau rhoi cynnig ar ddillad/offer newydd ar yr afon? Mae gennym beth o’r dillad/offer diweddaraf ar y farchnad i chi roi cynnig arnynt.
Gallwn gynnig cyrsiau pwrpasol i gyfateb i’ch amserlen a’ch lleoliad. (Efallai y bydd angen isafswm niferoedd).
*Ddim yn cynnwys ffi’r Ffederasiwn Rafftio Rhyngwladol ar gyfer ardystio Tywyswyr USD$40, Arweinwyr Teithiau USD$70, Hyfforddwyr USD$130.
Mae’r holl ddyfarniadau gan y Ffederasiwn Rafftio Rhyngwladol yn ddilys am dair blynedd pan gânt eu cefnogi gan dystysgrif cymorth cyntaf ddilys.