Yn unol â chanllawiau presennol Llywodraeth Cymru rydym wedi cau dros dro. Os ydych wedi trefnu archeb gyda ni yn y dyfodol agos byddwn yn cysylltu â chi i wneud trefniadau amgen. Mae ein talebau yn dal i fod ar gael ar-lein https://www.dgrhc.com/talebau-anrheg/ ac yn ddilys am gyfnod estynedig. Mae modd cysylltu â ni yn ystod oriau swyddfa o Ddydd Llun i Ddydd Gwener ar info@ciww.com. Byddwn yn cyhoeddi’r wybodaeth ddiweddaraf ar ein cyfryngau cymdeithasol @cardiffintww

Ffoniwch ni i drefnu
Ffoniwch ni i Archebu
029 2082 9970
E-bost
Dod o hyd i ni
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, Ffordd Watkiss, Bae Caerdydd, CF11 0SY

Diogelwch ac Achub Sylfaenol  

Os ydych am ddatblygu eich sgiliau diogelwch ac achub mewn amgylchedd dŵr cysgodol, mae’r cwrs undydd ymarferol hwn yn cyflwyno’r prif sgiliau sydd eu hangen arnoch i weithredu’n ddiogel ac i ddelio ag argyfyngau cyffredin.  Mae’r cwrs hwn yn cynnwys theori a chynllunio cyffredinol, yn ogystal â sut i achub o’r lan, ac achub o gwch.   Mae’r cwrs hwn yn agored i badlwyr, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr, mewn unrhyw grefft neu ddisgyblaeth, gyda dewis i achub o’r lan neu o gwch, gan roi’r cyfle a’r gefnogaeth i chi ddatblygu eich sgiliau diogelwch. 

GOFYNION CYN Y CWRS

  • Cymhwyster Paddle Explore neu 2 Seren (os yn cymryd rhan o gwch) neu o allu cyfatebol o gofio’r amgylchedd padlo a’r rheolaeth o’r cwch sydd ei angen i gwblhau’r cwrs. 
  • Yn gallu nofio mewn dillad padlo arferol. 

 

HYD Y CWRS

1 Diwrnod (09:00 - 17:00)

 

PRIS £110 y person


Cysylltu Archebu nawr
Gwybodaeth Allweddol
Rheswm dros ddewis DGRhC?
Mae gennym gyfleuster gwych ar y safle, gyda mynediad hawdd at afonydd ar gyfer ein cyrsiau i gyd.
Nid yw’r dyddiadau yma’n gweithio i chi?
Gallwn gynnig cyrsiau pwrpasol i gyfateb i’ch amserlen a’ch lleoliad. (Efallai bydd isafswm rhifau yn berthnasol).
Archebu nawr