ARCHEBU DRWY’R BOTWM ‘ARCHEBU NAWR
Ffoniwch ni i Archebu
029 2082 9970
E-bost
Dod o hyd i ni
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, Ffordd Watkiss, Bae Caerdydd, CF11 0SY

Arweinydd Canŵ

Mae’r cwrs hwn yn rhoi’r lefel o sgiliau personol sydd ei hangen arnoch i arwain grŵp o hyd at bedwar o badlwyr canŵ unigol (neu dri chriw canŵ tandem) ar Ddŵr Gwyn Cymedrol a Dŵr Mewndirol Cymedrol.

Mae cynnwys y cwrs Arweinydd Canŵ yn pwysleisio defnyddio amryw dechnegau sy’n briodol i ddŵr sy’n symud, a dŵr gwyn agored, sy’n gofyn i’r padlwyr berfformio symudiadau priodol ac effeithiol mewn sefyllfaoedd go iawn.

 

Gofynion Cyn Y Cwrs

Hyfforddiant:  Padlo i safon y Wobr Canŵ Graddedig

Asesiad:

  • Hyfforddiant Arweinydd Canŵ (o fewn 3 blynedd)
  • BC WWS&R neu Rescue 3 WRT
  • Cofrestriad Arweinydd Cenhedloedd Prydain   
  • Aelodaeth Cenhedloedd Prydain
  • Hyfforddiant Cymorth Cyntaf 2 ddiwrnod dilys 
  • 16 oed neu hŷn 


Hyd Y Cwrs

Hyfforddiant: 2 ddiwrnod (09:00 - 17:00)

Asesiad: 2 ddiwrnod (09:00 - 17:00)

 

Pris

Hyfforddiant: £180 y pen

Asesiad: £180 y pen

Gwybodaeth Allweddol
RHESWM DROS DDEWIS DGRHC?
Mae gennym gyfleuster gwych ar y safle, gyda mynediad hawdd at afonydd ar gyfer ein cyrsiau i gyd. Dim offer/dillad gennych neu am roi cynnig ar ddillad/offer newydd ar yr afon? Mae gennym beth o’r dillad/offer diweddaraf ar y farchnad i chi gael rhoi cynnig arnynt.
NID YW’R DYDDIADAU YMA’N GWEITHIO I CHI?
Gallwn gynnig cyrsiau pwrpasol i gyfateb â’ch amserlen a’ch lleoliad. (Efallai y bydd angen isafswm rhifau).