Os ydych am ddatblygu eich sgiliau diogelwch ac achub mewn dŵr gwyn gradd 3-4, mae’r cwrs ymarferol deuddydd hwn yn archwilio’r wybodaeth sy’n sail i’r sgiliau ac yn dysgu sgiliau ymarferol diogel y gellir eu cymhwyso’n briodol. Mae’r hyfforddiant hwn yn datblygu’r egwyddorion a’r technegau a ddysgir fel rhan o’r hyfforddiant Diogelwch ac Achub Dŵr Gwyn ac yn ystyried sut mae’n cymhwyso i’r amgylchedd o ddŵr cyflym, yn ogystal â chyflwyno’r cysyniad o waith tîm i roi strwythur mewn sefyllfa o argyfwng.
Os ydych yn badlwr dŵr gwyn, mae hwn yn gwrs gwych i chi ddatblygu eich sgiliau diogelwch ac achub i gefnogi eich hun a’ch cyd-badlwyr.
2 Ddiwrnod (09:00 - 17:00)
£170 y pen