ARCHEBU DRWY’R BOTWM ‘ARCHEBU NAWR
Ffoniwch ni i Archebu
029 2082 9970
E-bost
Dod o hyd i ni
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, Ffordd Watkiss, Bae Caerdydd, CF11 0SY

Rhaid i bawb sy’n cymryd rhan yn y gweithgaredd hwn fod yn 6 oed neu'n hŷn.

Ar rai dyddiau o'r wythnos, mae'r pympiau sy'n cynhyrchu ein dŵr gwyn yn cael eu gostwng ychydig fel bod y dŵr cyflym yn fwy hamddenol nag y byddai fel arfer yn ein gweithgaredd 'Rafftio Dŵr Gwyn' safonol. Mae hyn yn golygu bod plant mor ifanc â 6 oed yn gallu mwynhau ein profiad Rafftio Dŵr Gwyn poblogaidd!

Mae ein gweithgaredd Rafftio Dŵr Gwyn i’r Teulu yn addas ar gyfer teuluoedd, partïon a grwpiau o ffrindiau fel ei gilydd! Mae lle i hyd at 6 o bobl mewn rafft, fodd bynnag, os yw eich grŵp yn fwy na 6, mae croeso i chi archebu nifer o rafftiau neu leoedd ar rafft.

Mae argaeledd ar ein calendr isod yn fyw, felly os nad yw dyddiad/amser penodol yn ymddangos fel un y gellir ei archebu, mae hyn oherwydd bod y sesiwn eisoes yn llawn neu nad ydym yn gweithredu'r gweithgaredd hwn ar y diwrnod rydych yn chwilio amdano.

Os nad ydych yn archebu pob un o'r 6 lle ar rafft, bydd cwsmeriaid eraill ar eich rafft gyda chi.

Rydym yn cyflenwi siwtiau gwlyb, esgidiau dŵr, helmedau a chymhorthion arnofio fel rhan o bris y gweithgaredd.

Drwy fwrw ymlaen i drefnu’r sesiwn hon a thalu amdani, rydych chi’n cytuno â'n 'Telerau ac Amodau Hyfforddiant DGRhC' sydd i’w gweld yma.

BETH DDYLAI'R CWSMER DDOD AG E

  • Tywel
  • Dillad nofio
  • Darn £1 ar gyfer y loceri

Mae DGRhC yn darparu'r holl offer arbenigol arall sydd eu hangen i gymryd rhan yn y gweithgaredd hwn - e.e. switiau gwlyb, esgidiau dŵr, helmedau a chymhorthion arnofio.

 

AMSERLEN – BETH FYDDAN NHW'N EI WNEUD

Sesiwn 2 awr, gan gynnwys gwisgo’r dillad a’r offer addas, a chael brîff diogelwch

Gwybodaeth Allweddol
Pris
£30 y pen
AMSER Y SESIWN
Tua 2 awr
Oedran
Rhaid i gyfranogwyr fod yn 6 oed neu'n hŷn.
Offer
Darperir yr holl hyfforddiant ac offer arbenigol